Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn helpu mwy o bobl ag anabledd dysgu i ffynnu. Mae cymorth arbenigol ar yr adeg gywir yn hanfodol i helpu pobl i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder hanfodol i ffynnu a theimlo’n gyfartal mewn cymdeithas.
Ynglŷn â’r gwasanaeth hwn:
Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfeillio gydol oes i bobl ag anableddau dysgu. Paru sgiliau a diddordebau ymwelwyr brwd â hobïau a diddordebau penodol pobl unigol ag anabledd dysgu.
Mae ein hymwelwyr yn ymweld chwe gwaith y flwyddyn i greu cysylltiad 1-i-1, cynnig cwmnïaeth, annog pobl i wneud y pethau maen nhw’n eu mwynhau a gwirio eu lles.
Mewn llawer o achosion, ein hymwelydd yw’r unig berson ym mywyd rhywun nad yw’n cael ei dalu i fod yno iddo.
Rôl cyfeillio –
Fel rhan o Wasanaeth Ymweld Mencap rydym yn chwilio am wirfoddolwr i ymweld â merch hyfryd yn ei 70au cynnar sydd ag anableddau dysgu.
Mae hi’n gymdeithasol iawn ac yn mwynhau treulio amser gyda ffrindiau. Mae hi’n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth – yn enwedig Roy Orbison a Cliff Richard! Mae hi’n hoffi pethau neis – mae gemwaith yn ffefryn arbennig.
Bydd ymweliadau’n digwydd yn ei chartref lle gallwch chi sgwrsio dros baned o de. Mae’r rôl hon yn berffaith ar gyfer rhywun sy’n amyneddgar a sydd â dealltwriaeth. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o anableddau dysgu.
Byddwch yn cael eich cyflwyno ac yn dod i’w hadnabod gyda chefnogaeth ei gofalwr.
Bydd hi’n mwynhau treulio amser gyda gwirfoddolwr cyfeillgar fel chi! Trwy ymweld bob yn ail fis – byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Pryd a lle mae angen i mi fod ar gael?
• Bydd ymweliadau bob 2 fis yn ystod yr wythnos
• Bydd ymweliadau’n para tua 1 awr
Cyn gwneud cais, gwiriwch eich taith i wneud yn siŵr ei bod yn ymarferol i chi.
Fel Gwirfoddolwr Ymweld Mencap byddwch yn:
• 18 oed neu’n hŷn
• Cyfeillgar, amyneddgar a dibynadwy
Tags: Befriending
Comments are closed.