Mae Women Connect First yn cynnig ystod o wasanaethau gan gynnwys cyngor, eiriolaeth, cwnsela, ac ystod o raglenni hyfforddi a chyfleoedd gwirfoddoli ymhlith eraill. Targedua Women Connect First yn benodol menywod difreintiedig, ynysig ac ymylol Du a Lleiafrifoedd Ethnig, sy’n profi sawl haen o amddifadedd, gwahaniaethu ac allgáu wrth gyrchu gwasanaethau a chyflogaeth.
Yn ystod yr amser hwn, maen nhw’n chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda’r canlynol:
Dosbarthu pecynnau cymorth gyda chyflenwadau hanfodol gan gynnwys bwyd a gweithgareddau i ferched a phlant.
Siopa am fwyd.
Codi meddyginiaethau.
Cefnogaeth TG mewn cartrefi i gael teuluoedd i gysylltu.
Helpu i ddylunio gweithgareddau ar-lein i deuluoedd a’u gwneud yn hawdd eu cyrraedd.
Datblygu e-ddysgu.
Gwneud galwadau ffôn i gynnig help a chefnogaeth i fenywod lle nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn wirfoddolwr i Women Connect First, cysylltwch â Mei Lee mei@womenconnectfirst.org.uk neu ar 07716 643185/029 2034 3154.
Facebook -www.facebook.com/womenconnectfirst
Twitter -www.twitter.com/Women_CF
Instagram – https://www.instagram.com/women_cf/
Tags: Siopa a dosbarthu
Comments are closed.