Beth mae eich sefydliad / grŵp yn ei wneud?
Mae Caffi Trwsio Cymru yn agor ac yn cefnogi caffis trwsio yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn sefydliad nid-er-elw sy’n ymroddedig i greu diwylliant o drwsio ac ailddefnyddio, er mwyn annog cymunedau sydd am weithio tuag at Economi fwy Cylchol. Ein gwerthoedd craidd yw lleihau gwastraff, rhannu sgiliau ac adeiladu cysylltiadau cymunedol.
Mae caffis trwsio yn ddigwyddiadau dros dro sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Fe’u cynhelir yn aml mewn lleoliadau cymunedol ar ddyddiadau rheolaidd (e.e. dydd Sadwrn cyntaf y mis.) Gall pobl leol ddod â’u heitemau cartref sydd wedi torri neu eu difrodi i gael eu trwsio, am ddim, gan wirfoddolwyr. Mae’r gwaith trwsio nodweddiadol yn cynnwys dillad, trydan cartref, technoleg, gwaith coed, teganau plant, dodrefn a beiciau.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
Mae’r Trefnydd Gwirfoddolwyr yn recriwtio ac yn cysylltu â gwirfoddolwyr eraill (y rheiny sy’n lletya ac yn trwsio), lleoliad y caffi trwsio a gyda thîm Caffi Trwsio Cymru. Mae’n trefnu ochr weinyddol y caffi trwsio, yn goruchwylio cyhoeddusrwydd ac yn cysylltu â thîm Caffi Trwsio Cymru. Mae’r Trefnydd Gwirfoddolwyr yn allweddol i lwyddiant y caffi trwsio. Gellir rhannu’r rôl rhwng dau berson os yw’n well gennych.
Y mathau o sgiliau rydym yn chwilio amdanynt yw:
• Da am gynllunio a threfnu
• Cyfathrebwr da sy’n gyfforddus yn cysylltu â phobl
• Cydwybodol ynghylch sicrhau bod y caffi trwsio yn rhedeg yn unol â’r polisïau a nodir ym Mhecyn Cychwynnol Caffi Trwsio Cymru
• Da am roi cyhoeddusrwydd i’r digwyddiadau – neu’n hapus i recriwtio rhywun i helpu gyda hyn
Mae Caffi Trwsio Cymru yn darparu aelod o staff ymroddedig i gefnogi pob Trefnydd Gwirfoddolwyr. Rydym hefyd yn darparu Pecyn Cychwynnol cynhwysfawr, yn llawn o’r holl adnoddau y bydd eu hangen arnoch. Rydym yn cynnig hyfforddiant i gwblhau’r ffurflenni trwsio, cyngor ar yswiriant ac asesiad risg templed.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
leonie@repaircafewales.org
Manylion cyswllt
Leonie HudsonE-bost: leonie@repaircafewales.org
Gwefan: repaircafewales.org/cy/
Comments are closed.