Trafnidiaeth Gymunedol Greenlinks
Mae Trafnidiaeth Gymunedol Greenlinks yn darparu gwasanaeth teithio cymunedol cyfeillgar a phroffesiynol am gost isel i unigolion a grwpiau cymunedol ym Mro Morgannwg, yn enwedig y rhai sydd â nam symudedd a’r rhai na allant ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gonfensiynol.
Mae’r teithiau’n cynnwys ymweliadau ac apwyntiadau ysbyty, ymweld â ffrindiau a pherthnasau mewn cartrefi gofal, ymweliadau cymdeithasol a theithiau siopa. Mae’r cynllun hefyd ar gael i grwpiau cymunedol dielw sy’n dymuno llogi’r bws ar gyfer teithio lleol.
Aelodaeth Oes: £6
Unigolion: Mae’r prisiau’n amrywio rhwng £2 a £5 yn dibynnu ar y cais am drafnidiaeth.
Llogi Grŵp: Hanner diwrnod/gyda’r nos: £35; Diwrnod llawn: £70.
Swyddi Gyrwyr Gwirfoddol Gwag
Darperir y gwasanaeth o ddydd Llun i ddydd Gwener: Rhwng tua 8:30 a 17:00. Rydym hefyd yn gwneud gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd ar gyfer archebion grŵp.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr 21+ oed sydd â thrwydded yrru ers dwy flynedd neu fwy. Mae gennym amrywiaeth o gerbydau, gan gynnwys ceir hygyrch / ceir trydan a bysus mini â 12 sedd i gynnig trafnidiaeth i drigolion Bro Morgannwg.
Mae’r gwasanaeth yn darparu trafnidiaeth cyn belled â Phen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Llantrisant a Chaerdydd. Gall trigolion Bro Morgannwg ymuno â Greenlinks.
Er mwyn gallu gyrru’r 3 bws mwy, byddai angen i wirfoddolwr fod â chategori D1 ar ei Drwydded Yrru. Os gwnaeth basio ei brawf gyrru cyn 1997 (ac nad yw wedi colli ei drwydded ers hynny) mae’r categori hwnnw ar ei drwydded yn awtomatig. Mae’r cerbydau wedi’u lleoli yn Nepo’r Alpau, Gwenfô. Bydd y man casglu a gollwng yn Nepo’r Alpau.
Ymrwymiad amser: Awgrymir ymrwymiad amser o 4 awr neu fwy (diwrnod llawn yn ddelfrydol) bob pythefnos. Yn ystod yr wythnos fydd hyn yn bennaf, fodd bynnag, mae rhai penwythnosau a nosweithiau (os oes angen). Mae’r diwrnodau’n hyblyg.
Ad-dalu treuliau: Ad-delir costau teithio / cymhellion i wirfoddolwyr
Hyfforddiant a roddir: Byddwch chi’n derbyn asesiad gyrru ac yn cwblhau proses sefydlu sy’n cynnwys system gyfeillio gychwynnol. Rhoddir hyfforddiant MIDAS maes o law.
Gweithdrefnau dethol: Trafodaeth anffurfiol, llenwi ffurflen gais, geirdaon a gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (mae’r sefydliad yn talu’r gost am hyn).
Tags: Cwmnïaeth a chymdeithasu
Manylion cyswllt
Emma FarnhamE-bost: emmfarnham@valeofglamorgan.gov.uk
Ffôn: 029 20673268
Ffôn symudol: 07712350111
Gwefan: https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/living/Transportation/Greenlinks-Community-Transport.aspx
Comments are closed.