Gwrthdaro, gwrthdrawiadau a gwrthwynebwyr hanesyddol; mae ‘na gymaint i edrych ymlaen ato pan ddaw’r Ewros i Gaerdydd eleni. I wneud y digwyddiad hwn mor ysblennydd ag y gall fod, mae angen tîm allweddol o wirfoddolwyr – sy’n cael eu hadnabod fel Smashers – er mwyn helpu i gefnogi’r digwyddiad mewn ystod eang o rolau. O fod yn ymwneud â’r gamp neu’r cyfryngau, i wasanaethau gwylwyr a lletygarwch, bydd pob Smasher yn chwarae rhan allweddol wrth ddod â rygbi cadair olwyn i gynulleidfa enfawr.
|
Os ydych chi’n gyfeillgar a bod gennych chi’r hyder i gwrdd â phobl newydd wych, rydych chi’n swnio fel y byddwch chi’n ffit perffaith. Does dim angen cymwysterau ffurfiol, ond mae Saesneg da a llawer o frwdfrydedd yn ddelfrydol! Mae gwybodaeth neu brofiad o rygbi cadair olwyn neu ddigwyddiadau chwaraeon eraill yn ddymunol, nid yw’n hanfodol.
Tags: Chwaraeon a hamdden
Manylion cyswllt
Tom BowkettCyfeiriad:
Rugby House, Twickenham Stadium, 200 Whitton Road, Twickenham, TW2 7BA
E-bost: volunteer@wreuro23.com
Gwefan: https://wreuro23.com/news/smashers-we-need-you-volunteering-applications-are-now-open-for-this-mays-event/
Comments are closed.