Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i redeg ein “Caffi Lles” yn hwb Llanisien sy’n dechrau ym mis Medi. Mae’r caffi lles yn grŵp sy’n mynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol ac iechyd meddwl gwael trwy greu lle cyfeillgar, hamddenol a chroesawgar i bawb, gan gynnwys y rhai sy’n colli eu cof.
Bydd y grŵp yn cael ei gynnal bob dydd Mawrth rhwng 10am a 12pm (angen gwirfoddolwr 9.45 – 12.15) yn Hyb Llanisien, Heol yr Orsaf, CF14 5LS.
Beth sydd angen i’r gwirfoddolwr ei wneud:
- Bod â diddordeb mewn pobl a’u hanesion. Bydd y gwirfoddolwr delfrydol yn rhoi croeso cynnes i bawb sy’n dod, yn mwynhau siarad â phobl ac yn dda am gychwyn sgyrsiau.
- Gosod y gofod a’i glirio wedyn. Bydd y gwirfoddolwr delfrydol yn hapus i helpu symud byrddau a chadeiriau i greu lle a gwneud te a choffi i’r rhai sy’n mynychu yn ôl yr angen.
- Bod â rhywfaint o wybodaeth am ddementia neu fod yn barod i ddysgu. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr a byddwn yn darparu hyfforddiant i chi ond bydd angen i’r gwirfoddolwr fod yn amyneddgar ac yn hyblyg.
- Meddwl am weithgareddau ar gyfer y grŵp a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Bydd y gwirfoddolwr delfrydol yn chwarae rhan weithredol yn cynllunio, trefnu ac arwain gweithgareddau ar gyfer y grŵp. Mae angen i wirfoddolwyr hefyd fod yn hapus i ymuno â gweithgareddau grŵp i helpu i greu awyrgylch hwyliog.
- Cyfathrebu â’u mentor a staff yr hyb. Bydd angen i’r gwirfoddolwr roi gwybod i’r mentor pa oriau y bu’n gwirfoddoli a faint o bobl a oedd yn bresennol. Bydd angen i’r gwirfoddolwr hefyd roi gwybod i’r mentor ar unwaith os yw’n poeni am unrhyw un sy’n bresennol.
Gofynion arbennig:
- Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn
- Yn hapus i gael gwiriad GDG (siaradwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon am hyn)
- Y cynllun hirdymor ar gyfer y grŵp hwn yw ei fod yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr, felly byddai’n well gennym wirfoddolwyr sy’n barod i weithio tuag at arwain y grŵp hwn.
- Gallu gwirfoddoli ar amserlen ragweladwy (mae gwirfoddoli’n wythnosol yn ddelfrydol ond mae’n bwysicach ein bod yn gallu cynllunio o gwmpas eich argaeledd)
- Byddwn yn gofyn am 2 eirda cyn i chi ddechrau gwirfoddoli gyda ni (eto, siaradwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon)
- Cynhelir y grŵp yn Saesneg felly mae angen i’ch Saesneg llafar eich galluogi i egluro gweithgareddau i’r grŵp ac ateb ymholiadau a cheisiadau ad hoc.
- Ni allwn ddarparu tystysgrifau nawdd na chefnogi pobl i adleoli.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, yr hyfforddiant a ddarperir neu unrhyw anghenion hygyrchedd a allai fod gennych, cysylltwch â Kostiantyn.Verman@caerdydd.gov.uk (07812 506426) neu Gemma.Coleman2@caerdydd.gov.uk am sgwrs.
Manylion cyswllt
Kostiantyn VermanE-bost: Kostiantyn.Verman@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 07812506426
Comments are closed.