Mae grŵp hel atgofion Rhiwbeina yn mynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol ac iechyd meddwl gwael trwy ddarparu man cyfeillgar sy’n deall anghenion y rhai sy’n byw â cholli cof a gall fod yn gyfle i ofalwyr gymdeithasu ag eraill sy’n deall eu profiad.
Mae’r grŵp yn dechrau gyda rhywfaint o symud ysgafn iawn sy’n addas i bobl ag anghenion symudedd gwahanol. Gallai hyn fod yn Tai Chi neu Hyfforddiant Gweithredol Llai Heriol. Ar ôl hynny, mae’r grŵp yn cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau hel atgofion i gofio atgofion a digwyddiadau’r gorffennol. Gallai hyn gynnwys edrych ar hen luniau o Gaerdydd, siarad am ddigwyddiadau chwaraeon yn y gorffennol neu chwarae cerddoriaeth y mae’r grŵp yn ei chofio. Mae’r grŵp hefyd yn cynnal sesiwn cyd-ganu.
Manylion y Sesiwn:
Diwrnod ac Amser: Dydd Llun 3pm i 4.30pm (angen gwirfoddolwr 2.45 – 4.45)
Lleoliad: Hyb Rhiwbeina, Pen-y-Dre, CF14 6EH
Person cyswllt: Kostiantyn.Verman@caerdydd.gov.uk (07812 506426)
Beth sydd angen i’r gwirfoddolwr ei wneud:
- Bod â diddordeb mewn pobl a’u hanesion.
- Gosod y gofod a’i glirio wedyn.
- Bod â rhywfaint o wybodaeth am ddementia neu fod yn barod i ddysgu.
- Meddwl am weithgareddau ar gyfer y grŵp a’u harwain.
- Cyfathrebu â’u mentor a staff yr hyb.
Gofynion arbennig:
- Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn.
- Yn hapus i gael gwiriad GDG (siaradwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon am hyn)
- Y cynllun hirdymor ar gyfer y grŵp hwn yw ei fod yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr, felly byddai’n well gennym wirfoddolwyr sy’n barod i weithio tuag at arwain y grŵp hwn.
- Gallu gwirfoddoli ar amserlen ragweladwy (mae gwirfoddoli’n wythnosol yn ddelfrydol ond mae’n bwysicach ein bod yn gallu cynllunio o gwmpas eich argaeledd)
- Byddwn yn gofyn am 2 eirda cyn i chi ddechrau gwirfoddoli gyda ni (eto, siaradwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon)
- Cynhelir y grŵp yn Saesneg felly mae angen i’ch Saesneg llafar eich galluogi i egluro gweithgareddau i’r grŵp ac ateb ymholiadau a cheisiadau ad hoc.
- Ni allwn gefnogi pobl i adleoli ar gyfer y swydd wirfoddoli hon.
Manylion cyswllt
Kostiantyn VermanE-bost: Kostiantyn.Verman@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 07812506426
Comments are closed.