Elusen yng Nghaerdydd yw The Birth Partner Project sy’n cefnogi merched sy’n chwilio am noddfa a fyddai fel arall yn rhoi genedigaeth ar eu pennau eu hunain. Mae tîm bach o dri gwirfoddolwr yn cael ei neilltuo i bob menyw i’w chefnogi yng nghamau olaf beichiogrwydd, wrth esgor a rhoi genedigaeth, ac wyth wythnos ar ôl yr enedigaeth. Mae’r rôl yn un anfeddygol ac yn gofyn i chi fod yn dosturiol, yn ddibynadwy a gallu eirioli dros fenywod a phobl sy’n rhoi genedigaeth. I weld y disgrifiad llawn, ewch i’r ddolen hon.
https://www.birthpartnerproject.org/become-a-volunteer-birth-partner-1
Tags: Eiriolaeth, Gofalgar
Manylion cyswllt
Sinnead AliCyfeiriad:
Canolfan y Drindod, Heol y Pedair Llwyfen, Piercefield Pl, Caerdydd, CF24 1LE
E-bost: sinnead@birthpartnerproject.org
Ffôn: +447776067611
Gwefan: https://www.birthpartnerproject.org/become-a-volunteer-birth-partner



Comments are closed.