Llamau yw’r brif elusen ddigartrefedd yng Nghymru i’r bobl ifanc a’r merched mwyaf agored i niwed. Rydym yn arbennig o adnabyddus am weithio gyda’r rhai sydd yn y perygl mwyaf – Pobl sy’n Gadael Gofal, pobl sydd wedi ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol. pobl sydd wedi dioddef o gam-drin domestig a phobl sydd wedi cael ffordd o fyw anhrefnus a difreintiedig. Mae angen lefelau uchel o gefnogaeth unigol arnynt i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau annibynnol a phenderfynol yn eu cymunedau.
Mae gennym gyfleoedd i ymuno â’n tîm fel Mentor Gwirfoddolwyr a Gwirfoddolwr Ymgysylltu.
Bydd y Mentoriaid Gwirfoddolwyr yn gweithio ar sail 1-1 i helpu i gefnogi ein pobl ifanc i gael mynediad at addysg, gwaith a hyfforddiant ac i fod yn fodel rôl bositif yn eu bywyd hefyd.
Fel Mentor Gwirfoddolwyr, byddwch yn cefnogi eich mentorai i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol yn eu cymunedau lleol, gan eu galluogi i ddatblygu rhwydwaith o gefnogaeth i helpu i fyw’n annibynnol.
Bydd Gwirfoddolwyr Ymgysylltu yn gweithio ar draws Llamau i hyrwyddo ac ymgysylltu â phobl ifanc mewn gweithgareddau ystyrlon a chreadigol, gwirfoddoli ochr yn ochr â’r timau presennol i gynnig cyfleoedd sy’n magu hyder, gwella lles, datblygu hunan-effeithiolrwydd a sgiliau trosglwyddadwy i bobl ifanc 16-25 oed |
Tags: Addysg a hyfforddiant, Cwmnïaeth a chymdeithasu, Yn y gymuned
Manylion cyswllt
Natasha Taylor natashataylor@llamau.org.ukCyfeiriad:
23 - 25 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HA
E-bost: volunteermentor@llamau.org.uk
Ffôn: 02920239585
Ffôn symudol: 07747217559
Gwefan: www.llamau.org.uk
Comments are closed.