Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr manwerthu brwdfrydig a dibynadwy er mwyn helpu i gefnogi ein siopau elusennol. Mae ein siopau’n codi arian hanfodol i’n galluogi i gefnogi’r rhai yn y gymuned leol sy’n byw gyda salwch sy’n cyfyngu ar eu bywydau a’u teuluoedd.
Ar hyn o bryd mae gennym ystod o gyfleoedd ar gael yn ein siopau yn y Barri, Trelái, Rhiwbeina, Llanisien, Penarth a’r Eglwys Newydd.
Dywed Paul, Arweinydd Tîm Manwerthu Gwirfoddol:
“Y peth gorau am wirfoddoli yma yw dod yn rhan o deulu’r Hosbis a gallu cyfrannu at elusen leol anhygoel”.
Beth fyddaf i’n ei wneud?
Mae gwirfoddolwyr manwerthu yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o dasgau megis didoli rhoddion, prisio a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Drwy wirfoddoli yn ein siopau, byddwch yn gwneud gwahaniaeth anferth ac yn dod yn rhan o dîm cyfeillgar a chroesawgar. Byddwch hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned.
Pa fath o sgiliau a nodweddion sydd eu hangen arnaf?
Nid oes angen unrhyw brofiad manwerthu arnoch ar gyfer y rôl hon, darperir hyfforddiant llawn. Yn ddelfrydol, byddwch yn gallu ymrwymo i wirfoddoli’n rheolaidd am o leiaf 4 awr yr wythnos.
Pam y dylwn i gymryd rhan?
• Cewch gyfle i gefnogi pobl leol mewn elusen leol
• Gallwch gwrdd â phobl newydd drwy ein digwyddiadau gwirfoddoli cymdeithasol
• Gallwch ennill sgiliau newydd ar gyfer eich CV wrth ddefnyddio eich sgiliau presennol
Am faint o amser mae angen i mi wirfoddoli?
Gyda digon o gyfleoedd ar gael ar hyn o bryd, cysylltwch â ni heddiw i ddod o hyd i siop a shifft sy’n gweithio i chi. Mae ein timau manwerthu yn edrych ymlaen i’ch croesawu chi!
Tags: Manwerthu
Comments are closed.