Ein Hamcan yw helpu, cefnogi a galluogi pobl hŷn yng Nghaerdydd a’r Fro i gynnal eu hannibyniaeth a gwella ansawdd eu bywydau, yn enwedig pan fyddant yn unig ac yn ynysig.
Ein nod yw darparu cyswllt cymdeithasol drwy wirfoddolwyr sy’n ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain neu fynd â nhw allan i weithgareddau, gwrando ar broblemau neu bryderon, neu ddarparu gwybodaeth a helpu gyda siopa neu dasgau ymarferol bach. Mae rhai gwirfoddolwyr hefyd yn cynnig cyfeillio dros y ffôn yn rheolaidd fel dull ychwanegol o gysylltu, neu’n cynnig cludiant i apwyntiadau pwysig.
Os ydych yn wrandäwr da, yn empathetig, yn ddibynadwy ac y gellir ymddiried ynddoch, gallwch helpu. Mae angen i chi fod yn 18+ oed, ac yn gallu ymrwymo am o leiaf 6 mis: bydd hefyd angen dau eirda am eich cymeriad arnom, a byddwn yn cynnal gwiriad DBS cyn y gallwch ddechrau. Ar gyfer cyfleoedd i gynnig cludiant, bydd angen trwydded yrru lawn a glân arnoch, yswiriant cyfredol, a bod gennych eich cerbyd eich hun.
|
Tags: Cwmnïaeth a chymdeithasu, Pobl hŷn, Yn y gymuned
Manylion cyswllt
Helen PriorCyfeiriad:
Age Connects Caerdydd a’r Fro, Y Maltings, Stryd Tyndall Ddwyreiniol, Caerdydd, CF24 5EA
E-bost: helen.prior@ageconnectscardiff.org.uk
Ffôn: 02922 400030
Ffôn symudol: 07483 057366
Gwefan: www.ageconnectscardiff.org.uk
Comments are closed.