Mae Gyda’n Gilydd Dros Gaerdydd | Caerdydd yn Gofalu yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi pobl hŷn ynysig ac unig ar draws y ddinas.
Mae unigrwydd yn broblem enfawr, ac rydym yn gofyn am help i wneud newid mawr drwy wneud pethau fel ffonio pobl hŷn, ymweld â nhw ac eistedd i gael sgwrs, casglu siopa neu bresgripsiwn rheolaidd. Gall mynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith pobl hŷn gyfrannu at deimlad cyffredinol o les a gwella iechyd meddwl.
Ymunwch â ni i helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd. Gallwn ni i gyd chwarae ein rhan.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Gyda’n Gilydd Dros Gaerdydd | Caerdydd yn Gofalu, ffoniwch ni ar 02920 871 071 neu e-bostiwch gwirfoddoli@caerdydd.gov.uk
Tags: Pobl hŷn, Yn y gymuned
Manylion cyswllt
Volunteer TeamE-bost: volunteer@cardiff.gov.uk
Ffôn: 02920871071
Comments are closed.