Mae Canolfan Ymchwil ac Ymgysylltu Caerdydd yn rhan o Gyngor Caerdydd. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr a sefydliadau partner y Cyngor i gynnal ymgynghoriadau cyhoeddus, arolygon a grwpiau ffocws i gefnogi gwneud penderfyniadau
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
– Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n frwd dros helpu pobl i ddefnyddio eu llais i lywio penderfyniadau’r Cyngor;
– Rydyn ni’n chwilio am rywun sydd wrth ei fodd yn siarad â phob math o bobl, wrth ei fodd yn dysgu, ac sydd bob amser yn ceisio ennill sgiliau a phrofiadau newydd;
– Rydym yn chwilio am rywun sydd â doethineb a phwyll.
– Rydym yn chwilio am rywun sydd ag empathi tuag at y rhai nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan mewn arolygon, ac sy’n gallu eu hannog a’u cefnogi i rannu eu barn.
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd cymunedol, e.e. Somali ac Arabeg, yn fantais ond nid yw’n ofyniad. – Cysylltu ag ymwelwyr â’r Hyb, dweud wrthynt am yr arolwg presennol a’u hannog i gymryd rhan.
– Rhoi cymorth un-i-un i bobl gwblhau arolwg os yw hynny’n ddefnyddiol/gofynnol.
– Cwblhau’r fersiwn bapur neu ar-lein
– Monitro stociau o’r arolygon i sicrhau bod digon ohonynt gan yr arddangosfa a bod golwg dda arni. Rhoi gwybod i’ch mentor os yw’r stociau’n mynd yn brin.
– Sicrhau bod arolygon wedi’u cwblhau yn cael eu postio yn y blwch pleidleisio glas.
Byddwn yn :-
Trafod yr arolwg presennol fel eich bod yn gyfarwydd â’i gynnwys.
Dangos i chi sut rydyn ni’n cysylltu ag ymwelwyr â’r Hyb, fel canllaw i chi.
Dangos i chi sut olwg ddylai fod ar arddangosfeydd yr arolygon, fel y gallwch eu cynnal.
Diogelu
Iechyd a Diogelwch (gan gynnwys ymateb brys)
Gallwn roi geirda ar ôl 10 awr o wirfoddoli;
Mynediad i’r pecyn hyfforddi dysgu oedolion.
Tags: Cwmnïaeth a chymdeithasu, Gweinyddu a gwaith swyddfa
Manylion cyswllt
gwirfoddoli@caerdydd.gov.ukE-bost: gwirfoddoli@caerdydd.gov.uk
Comments are closed.