Mae ‘Ethnic Minority Women in Welsh Healthcare (EMWWH)’ yn chwilio am wirfoddolwr i gefnogi’r sefydliad i hyrwyddo mentora cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Ynglŷn ag EMWWH
Nodau EMWWH yw:
- Hyrwyddo menywod BAME yng Ngofal Iechyd Cymru
- Cysylltu menywod BME (Du a Lleiafrifoedd Ethnig) mewn gofal iechyd yng Nghymru a chreu rhwydwaith gefnogol a grymusol sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Hyrwyddo a gwella datblygiad proffesiynol trwy gefnogi, rhwydweithio a gweithgareddau addysgol gan gynnwys mentoriaeth, cyngor gyrfa, cwnsela, arweinyddiaeth, sgiliau rheoli, addysgu ac ymchwil sydd o fudd i system gofal iechyd Cymru a hefyd hwyluso integreiddiad menywod gofal iechyd BME o fewn gofal iechyd Cymru. .
- Addysgu’r cyhoedd trwy ddarlithoedd gofal iechyd rheolaidd
Ynglŷn â’r rôl wirfoddol
Bydd y gwirfoddolwr yn cael cyfle i weithio gydag ystod gyfan o weithwyr gofal iechyd yng Nghymru.
Bydd y tasgau gwirfoddoli yn cynnwys:
- Cydlynu’r prosiect
- Darparu cefnogaeth weinyddol
- Anfon e-byst rheolaidd
- Marchnata gweithgareddau hyrwyddo
- Diweddaru a defnyddio’r sianeli cyfryngau cymdeithasol (twitter)
- Cynnal y wefan
Tags: Gweinyddu a gwaith swyddfa, Iechyd a lles
Manylion cyswllt
Prof Meena UpadhyayaCyfeiriad:
2 llyn Close, Cardiff CF23 6LG
E-bost: Upadhyaya@cardiff.ac.uk
Ffôn: 07774839392
Gwefan: Emwwh.org
Comments are closed.