07538 522099
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr manwerthu brwdfrydig a dibynadwy er mwyn helpu i gefnogi ein siopau elusennol. Mae ein siopau’n codi arian hanfodol i’n galluogi i gefnogi’r rhai yn y gymuned leol sy’n byw gyda salwch sy’n cyfyngu ar eu bywydau a’u teuluoedd.
Ar hyn o bryd mae gennym ystod o gyfleoedd ar gael yn ein siopau yn Rhodfa Colchester, Trelái, Rhiwbeina, Llanisien, Penarth a’r Eglwys Newydd.
Mae gwirfoddolwyr manwerthu yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o dasgau megis didoli rhoddion, prisio a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Drwy wirfoddoli yn ein siopau, byddwch yn gwneud gwahaniaeth anferth ac yn dod yn rhan o dîm cyfeillgar a chroesawgar. Byddwch hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned.
Manylion cyswllt
Karen KitchCyfeiriad:
Hosbis y Ddinas, Tir Ysbyty'r Eglwys Newydd, Heol y Parc, Yr Eglwys Newydd, CF14 7BF
E-bost: volunteer@cityhospice.org.uk
Ffôn: 02920 524150
Gwefan: www.cityhospice.org.uk
Comments are closed.