Eisiau bod yn rhan o’r mudiad sy’n newid wyneb yr hyn mae’n ei olygu i fod yn ddyn?
Cysylltwch nawr i fod yn rhan o dîm HUMEN Space! Lleoliad: Caerdydd Mae HUMEN Space yn ofod dienw a diogel i ddynion siarad, gwrando a chysylltu yn rheolaidd, er mwyn gwella a chynnal iechyd meddwl dynion. Mae 75% o bob achos o hunanladdiad yn y DU yn ddynion. Ond maen nhw hanner mor debygol o gael diagnosis o iselder. Dyw hi ddim yn ddigon i ddweud bod angen i ddynion siarad, felly mae’r elusen HUMEN yn darparu gofod i wneud hynny, gan symud y tu hwnt i’r syniadau ffug a chyfyngus o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddyn, neu’n foi. Lle mae iechyd mewnol yn cael ei werthfawrogi gymaint ag iechyd corfforol, gan greu byd gwell i ddynion a menywod. Rydym yn chwilio am 4 gwirfoddolwr sydd eu hangen unwaith yr wythnos rhwng 6pm a 7.30pm i ymdrin â’r cyfrifoldebau canlynol: 1. Swyddog gofod – i arwain pob sesiwn gan ddilyn sgript HUMEN Space. 2. Lluniaeth – trefnu gorsaf luniaeth a rhoi lluniaeth i fynychwyr. 3. Cyfarchwr – cyfarch mynychwyr wrth y drws pan fyddant yn cyrraedd. 4. Gosodwr – gosod y seddi a dychwelyd y lle i’w gyflwr gwreiddiol. Cysylltwch nawr os oes unrhyw un o’r rolau hyn o ddiddordeb i chi. Gwnewch gais trwy ein Ffurflen Gwirfoddoli. Am unrhyw ymholiadau pellach anfonwch e-bost atom. Rydyn ni’n goleuo ffordd well ymlaen a gyda’n gilydd gallwn newid cwrs cenhedlaeth. Rwyt ti’n fod dynol. Rydw i’n fod dynol. Ni yw HUMEN. Cefnogaeth i wirfoddolwyr HUMEN: Mae grŵp negeseua canolog yn cael ei greu ar gyfer pob grŵp fel bod ganddynt gysylltiad uniongyrchol â phawb sy’n cymryd rhan er mwyn gallu rhannu unrhyw bryderon. Mae’r tîm yn y pencadlys yn cynnal sesiwn fisol gyda phob gwirfoddolwr ac yn caniatáu i unrhyw wirfoddolwr gysylltu ar unrhyw adeg hefyd. Mae ein polisi diogelu ar gael ym mhob sesiwn. |
Tags: Community, Yn y gymuned
Manylion cyswllt
Maja KantarCyfeiriad:
125 Charing Cross Rd, Llundain, WC2H 0EW
E-bost: maja@wearehumen.org
Ffôn: 07516182768
Ffôn symudol: 07516182768
Gwefan: https://www.wearehumen.org/
Comments are closed.