Mae Green Squirrel, a sefydlwyd yn 2012, yn fenter gymdeithasol yng Nghaerdydd. Mae ein gweledigaeth yn ymwneud â Chymru o gymunedau cysylltiedig a gofalgar, lle mae gan bob unigolyn a sefydliad y grym i fod yn rhan o ddyfodol gwyrddach a thecach.
Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â’n tîm Cwrdd a Chyfarch newydd yng Ngerddi’r Rheilffordd, ein Canolfan Cydnerthedd Cymunedol yn y Sblot.
Os ydych chi wrth eich bodd yn sgwrsio â phobl ac yn chwilio am rôl hamddenol, yna gallai hyn fod yn gyfle perffaith i chi! Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr Cwrdd a Chyfarch i fod ar y safle yn ystod oriau agor i helpu ymwelwyr i deimlo bod croeso iddynt, ateb eu cwestiynau, eu dangos o gwmpas os ydynt yn dymuno hynny, a chynnig rhagor o wybodaeth. Mae’r safle yn gallu bod yn brysur ond ddim bob amser – yn ystod cyfnodau tawel mae’n gyfle da i ddarllen llyfr neu wneud ychydig o arddio yn yr ardd gymunedol! Mae ein Caban Croeso newydd hyfryd yn cynnwys soffa, cyfrifiadur, gorsaf de/coffi (a bisgedi wrth gwrs) ac amwynderau eraill i wneud yn siŵr eich bod yn gyffyrddus.
Beth allwch chi ei ddisgwyl o’r rôl hon?
Fel gwirfoddolwr Cwrdd a Chyfarch byddwch yn:
– Cael cymorth i ddefnyddio eich sgiliau pobl i sicrhau bod ymwelwyr yn teimlo bod croeso iddynt, gan helpu i adeiladu cymuned fwy gofalgar.
– Datblygu eich sgiliau cyfathrebu a’ch sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid.
– Dysgu am waith beunyddiol prosiect cymunedol amrywiol.
– Cyfeirio ymwelwyr o gwmpas y safle corfforol a hefyd ar ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol addas.
– Helpu ymwelwyr i gymryd rhan – popeth o gofrestru gwirfoddolwyr newydd i ymdrin ag ymholiadau cadw ystafelloedd neu dderbyn rhoddion.
– Helpu gyda rhai tasgau bach syml sy’n cadw’r safle’n ddiogel ac yn hardd – fel dyfrio neu gasglu sbwriel.
– Bod yn rhan o dîm cyfeillgar a chroesawgar.
– Cael crys-t Gerddi’r Rheilffordd hynod smart!
Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y rôl hon?
Rydym yn chwilio am bobl:
– Sydd yn mwynhau sgwrsio â phobl ac sy’n teimlo eu bod yn gallu cynnig croeso cyfeillgar
– Sy’n gallu siarad Saesneg ar lefel sgyrsiol – does dim angen sgiliau iaith perffaith arnoch chi!
– A fyddai’n mwynhau helpu ymwelwyr i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
– Sy’n hapus i weithio gyda gwirfoddolwyr eraill fesul pâr neu dri.
– Sy’n gallu ymrwymo i slot dwy awr, wythnosol yn ddelfrydol ond o leiaf unwaith y mis.
Tags: Cymuned
Manylion cyswllt
Hannah GarciaCyfeiriad:
Gerddi’r Rheilffordd, Pen Adeline St, Caerdydd CF24 2BH
E-bost: hannah@greensquirrel.co.uk
Ffôn: 07542 074303
Ffôn symudol: 07542 074303
Gwefan: https://greensquirrel.co.uk/meetandgreet/


Comments are closed.