Mae Llais yn gorff cenedlaethol, annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llawer mwy o lais i bobl Cymru o ran eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae timau Llais lleol yn casglu barn a phrofiadau o ran iechyd a gofal cymdeithasol gan y rhai sy’n byw yng Nghymru ac yn rhoi cymorth gyda chyflwyno cwynion. Yna rydym yn gweithio gyda’r GIG, Awdurdodau Lleol, a Llywodraeth Cymru, i geisio gwella gwasanaethau.
Er mwyn gallu cyrraedd cymaint o bobl â phosibl, mae gennym dîm ymroddedig o wirfoddolwyr ym mhob rhanbarth sy’n ein helpu i gyflawni ein gwaith. Mae’r rolau gwirfoddoli yn cynnwys:
• Ymweld – mynd i gyfleusterau’r GIG a chartrefi gofal i siarad â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth am eu profiadau
• Ymgysylltu – mynd allan i’r gymuned, mynychu digwyddiadau lleol a chenedlaethol, i hyrwyddo Llais a chasglu adborth
• Cynrychioli – mynychu cyfarfodydd pwysig i randdeiliaid i gynrychioli Llais
• Casglu Adborth Ar-lein – chwilio ar-lein am adborth lleol sy’n cael ei gasglu fel gwybodaeth, ac yn helpu i lywio ein gwaith yn y dyfodol
Tags: Yn y gymuned
Manylion cyswllt
Erika DunshawCyfeiriad:
Llais Caerdydd
Canolfan Fusnes Pro Copy
Parc Ty Glas
Llanisien
Caerdydd
CF14 5DU
E-bost: cardiffandvaleenquiries@llaiscymru.org
Ffôn: 02920750112
Gwefan: https://www.llaiscymru.org/

Comments are closed.