Rydym yn helpu unrhyw un, unrhyw le yn y DU a ledled y byd, i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt os bydd argyfwng yn taro. O logi cadair olwyn neu ddelio ag unigrwydd, i addasu i fywyd mewn gwlad newydd – rydym yno pan fydd arnom ein hangen.
Rôl: Gwirfoddolwr Ymateb Brys Lleoliad: Caerdydd, de-ddwyrain Cymru Ymrwymiad: Mae’r gwasanaeth hwn ar waith 24 awr/7 diwrnod yr wythnos. Gofynnir i wirfoddolwyr wneud o leiaf 2 x shifft 6 awr yr wythnos a mynychu cyfarfodydd tîm misol, a gynhelir gyda’r nos, 7-9pm.
Beth fyddwn i’n ei wneud? Byddwch yn helpu pobl i baratoi ar gyfer argyfyngau, ymateb iddynt ac adfer yn eu sgil. Bydd angen cymorth gwahanol ar bob unigolyn y bydd argyfwng yn effeithio arno i’w helpu i wella, isod ceir rhai enghreifftiau o’r hyn y gallech ei wneud i helpu:
Dylai fod gan wirfoddolwyr sgiliau cyfathrebu da, a dylent fod yn empathetig ac yn ddigynnwrf mewn argyfwng. Cwmpasu Caerdydd gyfan ond rhaid gallu cyrraedd Gorsaf Dân Trelái (CF5 5BQ) – o fewn 30 munud. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rôl yma: https://bit.ly/CardiffER neu drwy e-bostio ILCRVolRecruitment@redcross.org.uk |
Tags: Yn y gymuned
Manylion cyswllt
Ella CoatesE-bost: ilcrvolrecruitment@redcross.org.uk
Gwefan: https://bit.ly/CardiffER
Comments are closed.