Mae’r Tîm Gwirfoddoli Cymunedol, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth Cymru, yn datblygu cyfleoedd gwirfoddoli hygyrch yn y 21 Hyb ledled y ddinas. Nod ein cyfleoedd gwirfoddoli yw gwella lles meddyliol a chorfforol cyfranogwyr trwy amrywiaeth o grwpiau cymdeithasol, creadigol, gweithgaredd corfforol a chymorth cyfoedion sy’n cael effaith gadarnhaol ar gymuned Caerdydd.
Ar gyfer y rôl newydd gyffrous hon fel Gwirfoddolwr Hyb Cymunedol gyda Chyngor Caerdydd, rydym yn chwilio am bobl sy’n frwd dros ddarllen, llyfrau a chefnogi eu cymunedau lleol trwy gefnogi staff Hybiau a Llyfrgelloedd i redeg y gwasanaeth llyfrgell yn ddidrafferth. Mae ein Hybiau yn ganolog i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, felly rydym yn chwilio am bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth gweithredol i’w cymunedau a helpu i greu amgylchedd diogel i bobl.
|
Manylion cyswllt
Isam MoghalE-bost: Isam.Moghal@cardiff.gov.uk
Ffôn: 07812506153
Gwefan: https://hybiaucaerdydd.co.uk/gwirfoddoli/



Comments are closed.