Mae CSA Cymru yn wasanaeth cymorth awtistiaeth am ddim a ariennir gan Lywodraeth Cymru yng nghanol dinas Caerdydd. Rydym yn darparu cymorth 1:1 a grŵp mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys i gyflogaeth a mynediad at fudd-daliadau lles a’u cynnal.
Ar hyn o bryd rydym wrthi’n sefydlu ein calendr gweithgareddau cymdeithasol, ac yn chwilio am wirfoddolwyr cyfeillgar i redeg amrywiaeth o grwpiau cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar weithgareddau ar gyfer y gymuned awtistig leol 16+ oed.
Rydym yn chwilio am bobl sydd â sgiliau cyfathrebu da sy’n ddibynadwy ac yn llawn cymhelliant ac sy’n gallu ymrwymo tua dwy awr yr wythnos. Rydym yn awyddus iawn i gynnig amrywiaeth gyfoethog o grwpiau, felly cysylltwch â ni os oes sesiwn benodol yr hoffech ei rhedeg.
Bydd angen i chi fod â dealltwriaeth o awtistiaeth, neu barodrwydd i ddysgu. Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr awtistig yn arbennig. Darperir hyfforddiant a chefnogaeth lle bo angen – nid oes angen unrhyw brofiad! |
Tags: Iechyd a lles, Yn y gymuned
Manylion cyswllt
Amber GoldrickCyfeiriad:
ASCC, 21 Stryd Fawr, Caerdydd, CF10 1PT
E-bost: activities@asc-cymru.org
Ffôn: 02920228794
Ffôn symudol: 07824901759
Comments are closed.