Mae ein Gwirfoddolwyr Cymorth Grŵp Therapiwtig yn darparu rôl hanfodol o fewn Hosbis y Ddinas.
Mae cael clust i wrando mor bwysig. Bydd ein grwpiau therapiwtig yn lle diogel i siarad, chwerthin a chrio, ymhlith grŵp croesawgar o bobl.
Mae ein grwpiau therapiwtig yn cynnwys rhieni, plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef profedigaeth yn ddiweddar, therapi celf a grwpiau lles eraill. Mae cwnselydd profiadol cymwys bob amser yn bresennol ynghyd â gwirfoddolwyr sy’n helpu i hwyluso’r grŵp.
Bydd ein gwirfoddolwyr hefyd yn helpu i groesawu a darparu lluniaeth i’r rhai sy’n dod draw.
Rydym ni bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr…
• Sy’n gallu deall materion yn ymwneud â phrofedigaeth
• Sy’n gallu cydymdeimlo â phobl mewn profedigaeth
• Sydd â sgiliau gwrando a chyfathrebu llafar da
• Sy’n gallu ymddwyn mewn ffordd barchus a phroffesiynol
• Sydd â synnwyr digrifwch, gonestrwydd/diffuantrwydd
• Sy’n ddibynadwy, ag agwedd gyfeillgar a chwrtais ac nad ydynt yn feirniadol
Mae ein sesiynau therapi wedi’u cynllunio o gwmpas cyfnod penodol o amser ac ar ôl ymrwymo bydd angen i chi ymgysylltu â phob sesiwn. Mae’r rhain fel arfer yn rhedeg bob mis am uchafswm o wyth sesiwn.
Bydd pob unigolyn sy’n ymgeisio ar gyfer y swydd hon yn cael ei asesu’n llawn ar gyfer addasrwydd. Bydd hyn yn cynnwys sgrinio cychwynnol wyneb yn wyneb neu dros y ffôn gyda’n Rheolwr Gwasanaeth Cwnsela. Rhoddir hyfforddiant a chefnogaeth lawn trwy gydol eich amser yn gwirfoddoli gyda Hosbis y Ddinas.
Tags: Cwmnïaeth a chymdeithasu
Manylion cyswllt
Samantha CurtisCyfeiriad:
Hosbis y Ddinas, Tir Ysbyty'r Eglwys Newydd, Heol y Parc, Yr Eglwys Newydd, CF14 7BF
E-bost: volunteer@cityhospice.org.uk
Ffôn: 02920 524150
Ffôn symudol: 07968164454
Gwefan: www.cityhospice.org.uk
Comments are closed.