Mae’r gwasanaethau Cymorth Digidol yn cynnig hyfforddiant, cyngor ac arweiniad digidol un wrth un i drigolion Caerdydd. Mae ein prif werthoedd yn alinio â mynd i’r afael ag allgau digidol a chymdeithasol a’n nod yw gweithio tuag at Gaerdydd 100% ddigidol. Rydym yn cynnig cyngor, hyfforddiant a chyfleoedd uwchsgilio yn ogystal â mynediad at ddyfeisiau digidol a rhaglenni lles. Mae gan y gwasanaethau cymorth digidol rywbeth i bawb waeth beth yw eich profiad digidol gan gynnwys dysgu sut i ddefnyddio llygoden a rhoi cynnig ar beirianneg gyfrifiadurol.
Mae’r gwasanaethau Cymorth Digidol wrthi’n cael eu hailfrandio er mwyn alinio’n agosach â Gwasanaethau i Mewn i Waith ehangach Cyngor Caerdydd. Bydd rhan o’r ymarfer ail-frandio hwn yn cynnwys ail-lansio ein cynnig digidol ac edrych ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwasanaethau gwybodaeth ar-lein.
Bydd y swydd hon yn cynnwys ychwanegu at gynllun marchnata parhaus i ail-lansio’r gwasanaethau Cymorth Digidol, creu cynnwys ar gyfer tudalennau cyfryngau cymdeithasol, creu deunyddiau marchnata i hyrwyddo prosiectau a chyrsiau newydd, a chynnal gweithgareddau marchnata fel gadael taflenni mewn siopau technoleg/siopau coffi/canolfannau cymunedol lleol.
Fel gwasanaeth cyhoeddus, mae’n hanfodol ein bod yn hyrwyddo ein gwasanaethau’n effeithiol er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd pob grŵp cymunedol, yn enwedig y rheiny sy’n agored i niwed ac yn ynysig yn gymdeithasol. Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n greadigol, yn gallu gweithio mewn amgylchedd prysur ac sydd â dealltwriaeth dda neu brofiad o greu a rheoli cynnwys cyfryngau cymdeithasol a deunyddiau marchnata. |
Tags: Marchnata a'r cyfryngau
Manylion cyswllt
Katie RappellCyfeiriad:
Ledled y Ddinas. Rôl wedi'i lleoli yn hyb y llyfrgell Ganolog: Llyfrgell Ganolog, Yr Ais, Caerdydd CF10 1FL
E-bost: a_wakeham@sky.com
Ffôn: 07771393002
Comments are closed.