Mae’r Prosiect Cyfeillio i Ofalwyr Di-dâl yn brosiect partneriaeth rhwng y Tîm Gwirfoddoli Cymunedol, Tîm Gofalwyr Di-dâl a’r Gwasanaethau Byw yn Annibynnol yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r prosiect hwn yn awyddus i recriwtio tîm o wirfoddolwyr sy’n frwd dros ddarparu cyfeillgarwch a chymorth lefel isel i Ofalwyr Di-dâl ledled Caerdydd.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
- Pobl empathig sy’n frwd dros ddarparu cymorth i Ofalwyr Di-dâl;
- Dealltwriaeth o bwy y gallai gofalwr di-dâl fod, neu barodrwydd i ddysgu;
- Pobl sy’n gynnes ac yn gyfeillgar, ac wrth eu boddau yn meithrin perthynas â phobl;
- Pobl sydd wrth eu boddau yn dysgu pethau newydd ac sydd wedi ymrwymo i ddysgu mwy am wasanaethau a all helpu pobl sy’n ofalwyr di-dâl;
- Modd defnyddio ffôn neu gyfrifiadur er mwyn ymgymryd â gweithgareddau cyfeillio;
- Rhywun sy’n gallu ymrwymo i ddiwrnod gwirfoddoli rheolaidd (o leiaf unwaith yr wythnos);
- Bod yn llysgennad i Gyngor Caerdydd trwy ddilyn polisïau a gweithdrefnau perthnasol.
Tags: Befriending, Cwmnïaeth a chymdeithasu, Iechyd a lles, Rhith gyfeillio
Manylion cyswllt
Bethan FrancisE-bost: CyfeillioGofalwyr@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 07977729249
Comments are closed.