Ydych chi’n chwilio am brofiad yn rhoi cymorth digidol ar gyfer eich CV? Ai chi yw ‘guru technegol’ y teulu? Os felly, efallai mai dyma’r cyfle perffaith i chi!
Mae’r cyfle hwn yw cyd-daro ag ail-lansio’r gwasanaethau digidol wyneb yn wyneb oedd ar gael cyn y pandemig ond a ddaeth i ben yn sgil dyfodiad COVID-19. Mae clybiau Cymdeithasol Digidol yn gyfle i gwsmeriaid 50 oed a hŷn i ddysgu sgiliau digidol hanfodol gydag unigolion o’r un anian, ac ar gyflymder sy’n addas iddyn nhw. Bob wythnos, mae’r grŵp yn penderfynu ar y pwnc digidol maen nhw am ei ystyried, o fynd i’r afael â diweddariadau diogelwch i ddefnyddio safleoedd cymharu i chwilio am fargeinion ynni – nod y clwb yw darparu datblygiad sgiliau digidol mewn modd anffurfiol a hamddenol.
Bydd y clwb yn cael ei hwyluso gan y tîm cymorth digidol, gan geisio symud tuag at hwyluso gan wirfoddolwyr wedi i’r clwb gael ei sefydlu a’i redeg yn effeithiol. Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal bob dydd Llun rhwng 10am-1pm yn Hyb Llyfrgell Yr Eglwys Newydd. |
Tags: Addysg a hyfforddiant, Pobl hŷn
Manylion cyswllt
Katie RappellCyfeiriad:
Llyfrgell Ganolog, Yr Ais, Caerdydd CF10 1FL
E-bost: Katiejayne.rappell@cardiff.gov.uk
Ffôn: 07583010395
Gwefan: www.dysguioedolioncaerdydd.co.uk/cymorth-ddigidol
Comments are closed.