Mae’r Tîm Gwirfoddoli Cymunedol yn cynnal gweithgareddau hygyrch am ddim i bobl o bob oed mewn mannau cymunedol ledled y ddinas gyda’r nod o wella lles pobl.
Mae ein Clwb Codio yn Hyb Llanrhymni (Dydd Llun 3.30-5) yn grŵp ar gyfer plant 8-13 oed. Yn y Clwb Codio, mae’r bobl ifanc yn defnyddio adnoddau a ddatblygwyd gan Sefydliad Raspberry Pi i greu eu gemau a’u gweithgareddau cyfrifiadurol eu hunain. Rydym yn chwilio am wirfoddolwr i gynorthwyo gyda chynnal y grŵp hwn.
Tags: Addysg a hyfforddiant, Plant a theuluoedd
Comments are closed.