A oes gennych brofiad bywyd o fod yn rhiant/gofalwr i blentyn sy’n cael trafferth gyda’i les meddyliol ac emosiynol ac a allwch chi sbario ychydig oriau bob wythnos? Beth am ymuno â’n tîm fel Gwirfoddolwr Cefnogi Lles Rhieni a’n helpu ni i gefnogi rhieni a gofalwyr sydd â phlant sy’n cael trafferth gyda’u hanghenion iechyd meddwl. Fel Gwirfoddolwr Cefnogi Lles Rhieni, byddwch yn darparu gwybodaeth a chymorth i rieni/gofalwyr plant a phobl ifanc hyd at 19 oed. Byddwch yn cael eich cefnogi’n llawn i:
· Ddarparu clust i wrando a chynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i deuluoedd yng Nghaerdydd neu’r Fro · Ymgysylltu â rhieni plant a phobl ifanc hyd at 19 oed sydd â phroblemau lles emosiynol ac iechyd meddwl · Cyfeirio rhieni at adnoddau neu wasanaethau cymorth a allai eu helpu gyda rhai o’r materion ymarferol, emosiynol a rhianta y maent yn eu profi a chefnogaeth ar gyfer eu hanghenion iechyd a lles eu hunain · Siarad â rhieni mewn grwpiau, gan ddarparu lle i wrando a thrafod a chefnogi · Datblygu gwybodaeth dda o’r gymuned leol a’r gwasanaethau/cymorth sydd ar gael · Helpu Family Lives i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth cymorth drwy gynnal boreau coffi, sesiynau galw heibio mewn lleoliadau cymunedol lleol a dosbarthu deunyddiau hyrwyddo Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol arnoch, ond bydd angen i chi allu cydymdeimlo a bod yn wydn. Bydd angen i chi fod â phrofiad o fod mewn rôl ofalgar neu rôl rhiant neu fod â phrofiad o gefnogi rhieni neu bobl ifanc. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd dros 18 oed ac wedi byw yn y DU am y ddwy flynedd diwethaf. |
Hyd
13
Comments are closed.