Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i redeg ein “Wellbeing Tuesday” yn hwb STAR, Tremorfa. Mae’r grŵp yn fan cyfeillgar i oedolion roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau i hybu eu hiechyd a’u lles. Mae’r grŵp yn helpu pobl i wella eu lles corfforol ond mae hefyd i wneud ffrindiau yn eu hardal.
Mae’r grŵp yn cwrddo bob dydd Mawrth 9.30am i 1pm (angen gwirfoddolwr 9am – 1.30pm) yn Hyb STAR, Heol Muirton, Tremorfa, CF24 2SJ.
Rydym yn chwilio am bobl sydd:
- Â diddordeb mewn pobl a’u hanesion. Bydd y gwirfoddolwr delfrydol yn rhoi croeso cynnes i bawb sy’n dod, yn mwynhau siarad â phobl ac yn dda am gychwyn sgyrsiau.
- Yn gallu arwain y sesiwn. Mae angen pobl arnom sy’n dod pan fyddan nhw’n dweud y byddan nhw, yn hapus i gynllunio ac arwain gweithgareddau grŵp ac a allai ddatrys problemau gyda staff pe bai mater yn codi.
- Â diddordeb mewn iechyd a lles ar gyfer ystod eang o anghenion iechyd. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr ond byddai gan y gwirfoddolwr delfrydol syniadau am weithgareddau lles y gallent eu cynnal ar ôl cerdded a allai weithio i lawer o wahanol bobl.
- Â’r gallu i gynnal sesiwn symud ysgafn ar-lein. Efallai y byddwn yn gofyn i wirfoddolwyr gynnal ein sesiwn “Wake Up and Stretch” ar-lein. Byddem yn darparu hyfforddiant llawn ond byddai angen i chi fod yn hapus i fod ar gamera ac arwain ymarferion
- Cyfathrebu â’u mentor a staff yr hyb. Bydd angen i’r gwirfoddolwr roi gwybod i’r mentor pa oriau y bu’n gwirfoddoli a faint o bobl a oedd yn bresennol. Bydd angen i’r gwirfoddolwr hefyd roi gwybod i’r mentor ar unwaith os yw’n poeni am unrhyw un sy’n bresennol.
Gofynion arbennig:
· Rhaid i chi fod 18 oed neu’n hŷn
· Y cynllun hirdymor ar gyfer y grŵp hwn yw ei fod yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr, felly byddai’n well gennym wirfoddolwyr sy’n barod i weithio tuag at arwain y grŵp hwn.
· Gallu gwirfoddoli ar amserlen ragweladwy (mae gwirfoddoli’n wythnosol yn ddelfrydol ond mae’n bwysicach ein bod yn gallu cynllunio o gwmpas eich argaeledd)
· Byddwn yn gofyn am 2 eirda cyn i chi ddechrau gwirfoddoli gyda ni (eto, siaradwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon)
· Cynhelir y grŵp yn Saesneg felly mae angen i’ch Saesneg llafar eich galluogi i egluro gweithgareddau i’r grŵp ac ateb ymholiadau a cheisiadau ad hoc.
– Ni allwn ddarparu tystysgrifau nawdd na chefnogi pobl i adleoli.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, yr hyfforddiant a ddarperir neu unrhyw anghenion hygyrchedd sydd gennych, cysylltwch â Cerys.Rees@caerdydd.gov.uk (07977 750470) neu Gemma.Coleman2@caerdydd.gov.uk am sgwrs.
Manylion cyswllt
Cerys ReesE-bost: Cerys.Rees@cardiff.gov.uk
Ffôn: 07977750470
Comments are closed.