Mae’r cyfle gwirfoddoli hwn yn agored i bawb, ond rydym yn annog ceisiadau’n benodol gan fyfyrwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol.
Proffil y sefydliad:
Ffurfiwyd Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC) yn 2017 gyda’r nodau canlynol:
- Gwarchod treftadaeth ddiwylliannol ddiriaethol ac anniriaethol cymunedau Iddewig de Cymru a’r cyffiniau, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) cofnodion hanesyddol, arteffactau a hanesion llafar.
- Sicrhau bod y cofnodion hanesyddol, yr arteffactau a’r hanes llafar hyn ar gael i aelodau’r cyhoedd, gan ddilyn safonau catalogio cydnabyddedig archifau ac amgueddfeydd.
- Hyrwyddo, codi ymwybyddiaeth, a gwella gwybodaeth y cyhoedd ynghylch y dreftadaeth Iddewig yn ne Cymru trwy unrhyw fodd sydd ar gael.
Amlinelliad o’r prosiect:
Nod y prosiect yw darparu hyfforddiant mewn sgiliau sy’n seiliedig ar dreftadaeth, ynghyd â chyfle i gymhwyso’r sgiliau hyn mewn lleoliad ymarferol.
Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio gyda chofnodion hanesyddol Synagog Diwygiedig Caerdydd (e.e., llyfrau cofnodion, cofnodion ariannol, llythyrau a ffotograffau).
Bydd modd trosglwyddo’r sgiliau a ddatblygir yn ystod y prosiect hwn a gellir eu cymhwyso i sawl maes yn y sector treftadaeth.
Rôl wirfoddoli:
Fel rhan o’r rôl hon, bydd gwirfoddolwyr yn:
- Asesu ac yn didoli’r cofnodion;
- Catalogio cofnodion wedi’u digideiddio, gan ddefnyddio safonau Dublin Core, i’w cyhoeddi yn Casgliad y Werin Cymru;
- Rhestru’r cofnodion sydd i’w hadneuo gydag Archifau Morgannwg.
Crëwyd dau gyfle gwirfoddoli gennym ar gyfer y prosiect hwn. Yn ogystal â’r rôl hon, rydym hefyd yn recriwtio ar gyfer Crëwr Allbynnau Digidol Gwirfoddol. Gall gwirfoddolwyr gymryd rhan yn un o’r rolau neu’r ddwy, gan ddibynnu ar eu diddordebau, eu disgwyliadau a’r amser maen nhw ar gael.
Sgiliau gofynnol:
Hanfodol:
- Trefnus a dibynadwy gyda’r gallu i gyflawni tasg yn brydlon.
- Manwl gywirdeb.
- Gafael ragorol ar y Saesneg; gallu i ysgrifennu mewn modd clir a chryno.
- Parodrwydd i weithio fel rhan o dîm
- Parodrwydd i ddysgu a gwella eich sgiliau.
Dymunol:
- Diddordeb mewn hanes a threftadaeth.
- Gwybodaeth am Casgliad y Werin Cymru.
Yr hyn y byddwch yn ei ennill:
· Hyfforddiant Trin a Thrafod Deunydd Archifol;
- Hyfforddiant Hawlfraint a’r GDPR;
- Hyfforddiant Digideiddio a Metaddata;
- Hyfforddiant Rhestru Dogfennau Archifol i’w Hadneuo;
- Profiad ymarferol o gatalogio cofnodion archifol;
- Achrediad mewn ‘Digideiddio deunyddiau ar gyfer amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau’, Lefel 2, Credyd 3, gan Agored Cymru (dewisol);
- Cyfle i wella eich CV a gwella eich cyflogadwyedd;
- Geirda gan CHIDC (ar ôl cyflawni’r dasg).
Gwybodaeth ychwanegol:
Lleoliad: gweithio hybrid – o bell (o gartref) neu yn Synagog Diwygiedig Caerdydd (swyddfa dros dro CHIDC).
Bydd treuliau teithio’n cael eu had-dalu (cludiant cyhoeddus Caerdydd).
Dyddiad dechrau: 01 Tachwedd 2022.
Dyddiad Gorffen: 30 Tachwedd 2022
Tags: Gweinyddu a gwaith swyddfa
Manylion cyswllt
Klavdija ErzenE-bost: klavdija.erzen@jhasw.org.uk
Ffôn: +447972113952
Comments are closed.