Pwrpas y rôl
Cynorthwyydd Ymgysylltu Gwirfoddolwyr
Cynorthwyo Cydlynydd Gwirfoddoli a Chyflogadwyedd FareShare Cymru
gydag ystod o ddyletswyddau cefnogi a gweinyddol.
Pam mae’ch angen chi arnom:
Heb wirfoddolwyr, ni allai FareShare Cymru wneud yr hyn ‘rydym ni’n ei wneud.
Helpwch ni i sicrhau bod ein gwirfoddolwyr presennol mor hapus ag y gallant fod, ac yn
ymgysylltu gymaint ag sy’n bosib, a helpwch ni i ledu’r gair er mwyn recriwtio mwy o
wirfoddolwyr. Gorau po fwyaf!
Beth fydda i’n ei wneud?
Fe fydd tasgau’n amrywio, ond gallant gynnwys:
• Cofnodi oriau a chyfddyddio cofnodion gwirfoddolwyr
• Mynychu digwyddiadau recriwtio gwirfoddolwyr lle bo’n bosib
• Cynorthwyo gyda’r broses o gychwyn gwirfoddolwyr newydd, cofnodi cynnydd
ceisiadau ar ein system a chynorthwyo gyda sefydlu gwirfoddolwyr
• Cefnogi’n gwirfoddolwyr presennol, datblygu perthnasoedd da a deall eu
hanghenion
• Unrhyw gefnogaeth ychwanegol fydd ei hangen i helpu’r tîm datblygu ehangach
Yr hyn rydym ni angen i chi fod:
• Yn gyfforddus yn siarad ar y ffôn mewn ffordd gwrtais, glir a chyfeillgar
• Yn dda gyda phobl, yn gallu creu perthnasoedd gyda gwirfoddolwyr o
gefndiroedd amrywiol a gweld pethau o bersbectif eraill
• Sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol, yn gyfarwydd ag e-bost, Microsoft Word ac Excel
• Sgiliau trefnu da, a’r gallu i fod yn flaengar
• Hyblyg – gall tasgau dydd i ddydd amrywio
Beth gaf i allan ohono?
Cefnogaeth a goruchwyliaeth gan y Cydlynydd Gwirfoddoli a Chyflogadwyedd
Datblygu sgiliau gweinyddol a chyfathrebu
Cyfnod sefydlu a hyfforddiant ar gyfer y rôl
Costau teithio o fewn rheswm a chinio pan mae e ar gael
Lle cyfeillgar, llawn hwyl i wirfoddoli
Y cyfle i ymgymryd â heriau newydd a gwella’ch cyflogadwyedd
Hyfforddiant ychwanegol pan mae e ar gael
Geirda ar gyfer y gweithle i’r sawl sy’n ymrwymo’n llwyddiannus i gyfnod o dri mis
o leiaf
Y cyfle i gefnogi achos arbennig o dda, a rhoi rhywbeth ‘nôl i’ch
cymuned
Tags: Gweinyddu a gwaith swyddfa
Manylion cyswllt
Phil Pinder, Volunteering & Employability CoordinatorCyfeiriad:
Unit S5 Capital Business Park Cardiff CF3 2PU
E-bost: phil@fareshare.cymru
Ffôn: 07506728649
Gwefan: https://fareshare.cymru/
Comments are closed.