Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr manwerthu brwdfrydig a dibynadwy er mwyn helpu i gefnogi ein siopau elusennol. Mae ein siopau’n codi arian hanfodol i’n galluogi i gefnogi’r rhai yn y gymuned leol sy’n byw gyda salwch sy’n cyfyngu ar eu bywydau a’u teuluoedd.
Ar hyn o bryd mae gennym ystod o gyfleoedd ar gael yn ein siopau yn y Barri, Trelái, Rhiwbeina, Penarth a’r Eglwys Newydd.
Mae gwirfoddolwyr manwerthu yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o dasgau megis didoli rhoddion, prisio a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Drwy wirfoddoli yn ein siopau, byddwch yn gwneud gwahaniaeth anferth ac yn dod yn rhan o dîm cyfeillgar a chroesawgar. Byddwch hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned.
Dywedodd Paul, Arweinydd Tîm Gwirfoddoli Manwerthu: “Y peth gorau am wirfoddoli yma yw dod yn rhan o deulu’r Hosbis a gallu cyfrannu at elusen leol anhygoel”.
Nid oes angen unrhyw brofiad manwerthu arnoch ar gyfer y rôl hon, darperir hyfforddiant llawn. Yn ddelfrydol, byddwch yn gallu ymrwymo i wirfoddoli’n rheolaidd am o leiaf 4 awr yr wythnos.
Gyda digon o gyfleoedd ar gael ar hyn o bryd, cysylltwch â ni heddiw i ddod o hyd i siop a shifft sy’n gweithio i chi. Mae ein timau manwerthu yn edrych ymlaen i’ch croesawu chi! |
Tags: Siopa
Manylion cyswllt
Samantha CurtisCyfeiriad:
Cyfeiriad Cyswllt: Hosbis y Ddinas, Tir Ysbyty'r Eglwys Newydd, Heol y Parc, Yr Eglwys Newydd, CF14 7BF
E-bost: volunteer@cityhospice.org.uk
Ffôn: 02920 524150
Ffôn symudol: 07968164454
Gwefan: www.cityhospice.org.uk
Comments are closed.