Pwrpas y rôl
Cynorthwyo Tîm Datblygu FareShare Cymru gydag ystod o
ddyletswyddau cefnogi a gweinyddol.
Pam mae’ch angen chi arnom:
Mae FareShare Cymru yn ehangu. Helpwch ni i ledaenu’r gair i recriwtio mwy o gyflenwyr
bwyd a sicrhau bod ein Haelodau Bwyd Cymunedol mor hapus ac yn ymgysylltu gymaint â
phosibl. Gallwch chi helpu i gefnogi dau ben yr hyn rydyn ni’n ei wneud, o’r bwyd sy’n dod
mewn, i ben ei daith yn cael ei wneud yn brydau bwyd gan ein Haelodau Bwyd Cymunedol.
Beth fydda i’n ei wneud?
Fe fydd tasgau’n amrywio, ond gallant gynnwys:
• Mynd gyda’r Cydlynydd Cyrchu Bwyd ar ymweliadau â chyflenwyr, pan fyddant ar gael
• Ymchwilio i gyflenwyr bwyd a mapio rhanbarthau i’w datblygu
• Ymchwil i ddigwyddiadau/gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn Niwydiant Bwyd a Diod
Cymru i’r Tîm Datblygu eu mynychu
• Ymchwil cefndirol i’r tîm datblygu
• Cydgysylltu ag Aelodau Bwyd Cymunedol ac uwchgyfeirio unrhyw broblemau a phryderon
at ein Cydlynydd Aelodau Bwyd Cymunedol
• Cefnogi cwblhau ac adrodd ar wiriadau diogelwch blynyddol ar gyfer ein Haelodau Bwyd
Cymunedol
• Unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen i helpu’r tîm datblygu ehangach
Yr hyn rydym ni angen i chi fod:
Yn gyfforddus yn siarad ar y ffôn mewn ffordd gwrtais, glir a chyfeillgar
Yn dda gyda phobl, yn gallu creu perthnasoedd gyda gwirfoddolwyr o gefndiroedd
amrywiol a gweld pethau o bersbectif eraill
Sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol, yn gyfarwydd ag e-bost, Microsoft Word ac Excel
Sgiliau trefnu da, a’r gallu i fod yn flaengar
Hyblyg – gall tasgau dydd i ddydd amrywio
Beth gaf i allan ohono?
Cefnogaeth a goruchwyliaeth gan y Development Team
Datblygu sgiliau gweinyddol a chyfathrebu
Cyfnod sefydlu a hyfforddiant ar gyfer y rôl
Costau teithio o fewn rheswm a chinio pan mae e ar gael
Lle cyfeillgar, llawn hwyl i wirfoddoli
Tags: Administration and Office Work, Gweinyddu a gwaith swyddfa
Manylion cyswllt
Phil Pinder, Volunteering & Employability CoordinatorCyfeiriad:
Contact Address: Unit S5 Capital Business Park Cardiff CF3 2PU
E-bost: phil@fareshare.cymru
Ffôn: 07506728649
Gwefan: https://fareshare.cymru/
Comments are closed.