Swydd: Cynorthwy-ydd Archif Gwirfoddol
Contract: Tri mis i ddechrau Yn atebol i: Rheolwr Swyddfa Oriau: 6-12 awr yr wythnos Lleoliad: Caerdydd Mae’r cyfle gwirfoddoli hwn yn agored i bawb, ond rydym yn arbennig yn annog ceisiadau gan Sipsiwn a Theithwyr.
Proffil y sefydliad: Gweithio ers 1981 ar gyfer Cymru lle gall Sipsiwn a Theithwyr fwynhau hawliau a chyfleoedd cyfartal. Rydym yn helpu Sipsiwn a Theithwyr, gan ddarparu cefnogaeth, eiriolaeth, a chyngor. Rydym yn llais cryf, yn ymgyrchu gyda a thros Sipsiwn a Theithwyr i fod yn lladmeryddion dros eu hawliau, eu hanghenion a’u dymuniadau. Rydym yn cynnig gwybodaeth gyfrinachol, ddiduedd ac arbenigol, cyngor a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau sy’n ceisio gwella eu gwasanaethau.
Mae ein gwaith yn bennaf yng Nghaerdydd, Casnewydd, a Thorfaen ond hefyd yn ehangach ledled Cymru.
Ein hamcanion yw:
Sicrhau llety addas a diogel o ansawdd da i bob Sipsiwn a Theithiwr Gwella mynediad at ac effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus i Sipsiwn a Theithwyr Herio ymddygiad ac agweddau gwahaniaethol tuag at Sipsiwn a Theithwyr Cynyddu’r cyrhaeddiad addysgol, hyder i gymryd rhan fel dinasyddion gweithredol a rhagolygon cyflogadwyedd Sipsiwn a Theithwyr
Mae gennym 10 o weithwyr cyflogedig, sy’n darparu gwasanaethau o dan gyfarwyddyd y Cydlynydd ac rydym yn cael ein llywodraethu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr. Dros y blynyddoedd mae Sipsiwn a Theithwyr Cymru (GT Wales) wedi datblygu amrywiaeth o wasanaethau craidd. Ein gweithgareddau craidd yw: · Cynnig gwybodaeth a chyngor · Gwasanaeth Eiriolaeth · Gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth · Gwasanaethau cyflogaeth a sgiliau · Hyfforddiant proffesiynol ac Ymgynghoriaeth · Llesiant
Rôl wirfoddoli: Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio gyda chofnodion hanesyddol Sipsiwn a Theithwyr Cymru (e.e., llyfrau cofnodion, cofnodion ariannol, llythyrau, ffotograffau, Llenyddiaeth ac ati). Bydd modd trosglwyddo’r sgiliau a ddatblygir yn ystod y prosiect hwn a gellir eu cymhwyso i sawl maes yn y sector treftadaeth. Fel rhan o’r rôl hon, bydd gwirfoddolwyr yn: 1. Asesu ac yn didoli’r cofnodion 2. Catalogio cofnodion trwy Daenlen Excel 3. Rhestru’r cofnodion sydd i’w hadneuo gydag Archifau Morgannwg.
Sgiliau gofynnol Hanfodol: · Trefnus a dibynadwy gyda’r gallu i gyflawni tasg yn brydlon · Manwl gywirdeb · Gafael ragorol ar y Saesneg; gallu i ysgrifennu mewn modd clir a chryno · Parodrwydd i weithio fel rhan o dîm · Parodrwydd i ddysgu a gwella eich sgiliau
Dymunol: · Diddordeb mewn hanes a threftadaeth
Yr hyn y byddwch yn ei ennill: · Profiad o Ddelio â Deunydd Archifol · Profiad ymarferol o gatalogio a rhestru cofnodion archifol · Cyfle i wella eich CV a gwella eich cyflogadwyedd
Gwybodaeth ychwanegol: Caiff costau teithio eu had-dalu.
Dyddiad dechrau: 27 Tachwedd 2022
Cyswllt:Sofia Hillman – Rheolwr Swyddfa
E-bost: recruit@gtwales.org.uk Ffôn: (029)22789256
|
Tags: Gweinyddu a gwaith swyddfa
Manylion cyswllt
Sofia HillmanCyfeiriad:
Canolfan Gymunedol Trowbridge, Caernarvon Way, Trowbridge,
Caerdydd, CF3 1RU
E-bost: Sofia.hillman@gtwales.org.uk
Ffôn: 02922789256
Gwefan: https://gtwales.org.uk
Comments are closed.