Oes gennych chi brofiad o ysgrifennu ar gyfer cyfryngau cyhoeddedig?
Allwch chi neilltuo ychydig oriau’r mis i ddefnyddio’ch sgiliau i gefnogi’ch cymuned leol?
Fel Cynhyrchydd Cynnwys Gwirfoddol gyda Chyngor Caerdydd, byddwch yn cefnogi timau Caerdydd sy’n Dda i Bobl Hŷn a Dinas Gofal i gyfweld ag unigolion a sefydliadau sy’n cefnogi pobl hŷn agofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd ac ysgrifennu erthyglau byr amdanynt ar gyfer ein cylchlythyrau Caerdydd sy’n Dda i Bobl Hŷn a Dinas Gofal.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
- Person creadigol, gyda pheth profiad o ysgrifennu erthyglau ar gyfer cyfryngau cyhoeddedig, sy’n gallu cyflwyno syniadau, cyfweld â phobl ac ysgrifennu erthyglau ar gyfer ein cylchlythyrau Caerdydd sy’n Dda i Bobl Hŷn a Dinas Gofal;
- Rhywun sydd â sgiliau ffotograffiaeth – boed hynny fel hobi neu’n broffesiynol;
- Rhywun sy’n gynnes ac yn gyfeillgar ac sy’n gallu gwneud i rywun deimlo’n gyfforddus;
- Rhywun sy’n drefnus ac yn gallu bodloni terfynau amser;
- Fel Cynhyrchydd Cynnwys Gwirfoddol ar gyfer ein cylchlythyrau Caerdydd sy’n Dda i Bobl Hŷn a Dinas Gofal, rydym yn chwilio am wirfoddolwr sydd naill ai dros 50 oed neu sydd â rhywfaint o brofiad (naill ai yn y gorffennol neu ar hyn o bryd) o ofalu am rywun.
Yr hyn a gewch gennym ni:
- Cyfle hyblyg y gallwch achub arno pan fo’n gyfleus i chi a’ch amserlen;
- Geirda os ydych chi’n cwblhau 10 awr neu fwy gyda ni;
- Ennill Credydau Amser Tempo y gellir eu gwario ar docynnau i atyniadau twristaidd, digwyddiadau, cyfleusterau chwaraeon a mwy;
- Mynediad i becyn hyfforddiant Dysgu Oedolion Cyngor Caerdydd;
- Cael eich cydnabod yn gyfrannwr yn y cylchlythyrau.
Tags: Cymuned
Manylion cyswllt
Cerys ReesE-bost: cerys.rees@cardiff.gov.uk
Ffôn: 07977750470
Ffôn symudol: 07977750470
Gwefan: https://agefriendlycardiff.co.uk/?lang=cy
Comments are closed.