Mae Run 4 Wales yn trefnu rhai o’r digwyddiadau rhedeg mwyaf yng Nghaerdydd ac ardaloedd cyfagos. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu yn nigwyddiad Ras Bae Caerdydd ddydd Sul 22 Mai ac yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul 2 Hydref.
Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i sicrhau bod diwrnod y ras yn llwyddiant ysgubol a byddwch yn rhan o dîm o’r enw ‘The Extra-Milers’, sy’n sicrhau bod rhedwyr a gwylwyr fel ei gilydd yn cael profiad gwych.
Nid oes angen unrhyw sgiliau arbennig arnoch, dim ond bod yn ddibynadwy, yn hyblyg ac yn hynod o frwdfrydig! Mae ystod eang o rolau gwahanol ar gael ar ddiwrnod y ras a bydd yna rywbeth sy’n addas i bawb megis:
- Helpu i annog a hydradu’r rhedwyr ar y gorsafoedd dŵr
- Helpu yn yr ardal gollwng bagiau wrth ymyl y llinell derfyn a sgwrsio â’r rhedwyr cyn ac ar ôl y ras
- Cefnogi a chyfeirio rhedwyr ac ymwelwyr o amgylch yr ardaloedd dechrau/gorffen neu yn ystod y ras, mewn rôl swyddog ras
- Bod wrth y llinell derfyn i longyfarch rhedwyr drwy roi medalau a chrysau-t iddynt
Byddwn yn darparu crys-t gwirfoddolwr, seibiannau, lluniaeth a chymorth ar y diwrnod i chi drwy oruchwyliwr.
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gael hwyl, gwneud ffrindiau, gwella eich CV a phrofi awyrgylch gwefreiddiol diwrnod y ras. Felly os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r digwyddiadau gwych hyn neu os yw eich ffrindiau neu aelod o’r teulu yn rhedeg yna beth am wirfoddoli?
Os ydych yn rhan o gymuned leol neu grŵp ieuenctid sydd â diddordeb mewn cymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr o 14-17 oed, cyn belled â’u bod yng nghwmni oedolyn.
Mae gwirfoddoli gyda Run 4 Wales hefyd yn ffordd wych o weithio tuag at Her Gymunedol Bagloriaeth Cymru. Os hoffech chi gefnogi Run 4 Wales wrth ennill eich dyfarniad Her Gymunedol, cysylltwch â ni.
|
Comments are closed.