Mae PAPYRUS: Atal Hunanladdiad Ymhlith Pobl Ifanc yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad ifanc, y lladdwr mwyaf o dan 35 oed yn y DU.
Mae angen gwirfoddolwyr arnom i godi ymwybyddiaeth o atal hunanladdiad yn eu cymuned ac i ddarparu sesiynau codi ymwybyddiaeth ar gyfer grwpiau lleol.
Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi’n llawn i gyflwyno sesiynau i wella ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth o hunanladdiad i weithwyr proffesiynol ac eraill sy’n dod i gysylltiad â phobl ifanc dan 35 oed.
Mae stigma ynghylch siarad am hunanladdiad ac rydym am i’n gwirfoddolwyr helpu i chwalu’r stigma hwnnw ledled Cymru.
Bydd pob cyfranogwr yn cael pecyn adnoddau i’w ddosbarthu o fewn ei gymuned ei hun a bydd yn cael ei arwain mewn gweithgareddau fel cynnal digwyddiadau a fydd yn hyrwyddo gwaith PAPYRUS ac ymwybyddiaeth o hunanladdiad.
Mae oriau’n hyblyg a gallant ffitio o’ch cwmpas, caiff treuliau gwirfoddoli eu had-dalu a rhoddir hyfforddiant a mentora llawn gan Gydlynydd Gwirfoddolwyr penodedig.
|
Rhaid i chi fod dros 18 oed.
Tags: Addysg a hyfforddiant, Iechyd a lles, Iechyd a lles
Manylion cyswllt
Danielle Taylor – Cydlynydd GwirfoddolwyrCyfeiriad:
Tŷ Hastings, Plas Fitzalan, Caerdydd, CF24 OBL
E-bost: danielle.taylor@papyrus-uk.org
Ffôn: 029 2078 9759
Ffôn symudol: 07825249378
Gwefan: https://www.papyrus-uk.org/
Comments are closed.