Amlinelliad o’r dyletswyddau
Mae Cyfeillion Cleifion yn rhyngweithio â chleifion a all deimlo’n unig, wedi’u hynysu neu wedi diflasu ar y wardiau. Maen nhw’n treulio amser yn siarad â chleifion, gan eu helpu i gysylltu’n rhithwir â’u hanwyliaid, a chefnogi cleifion gyda gweithgareddau wrth erchwyn y gwely neu yn yr ystafell ddydd. Nid yw’r rôl hon yn cynnwys eiriolaeth na chwnsela.
Prif Dasgau
• Trin pob claf ag urddas a pharch Treulio amser yn sgwrsio ac yn gwrando
• Cynorthwyo staff gyda sesiynau gweithgareddau, a allai gynnwys celf a chrefft, gemau cymdeithasol a gweithgareddau tymhorol
• Cynorthwyo i ddarparu diodydd poeth neu oer pan ofynnir amdanynt gan staff y tu allan i amserlen y gwasanaeth diodydd a drefnwyd
• Tawelu meddwl defnyddwyr gwasanaeth neu ymwelwyr pryderus neu nerfus
• Darparu gwasanaeth darllen/ysgrifennu lle bo’n briodol
• Hwyluso gweithgareddau un i un gyda chleifion fel cardiau a phosau
• Defnyddio offer hel atgofion gyda chleifion
• Ymgymryd â galwadau ymweld rhithwir
• Defnyddio’r bwrdd cyffwrdd rhyngweithiol
• Cynnal arolygon adborth cleifion gyda dyfeisiau BIP.
Manylion cyswllt
Jordann RowleyCyfeiriad:
Voluntary Services Team. University Hospital of Wales
E-bost: Jordann.Rowley@wales.nhs.uk
Ffôn: 02921845692
Gwefan: https://cavuhb.goassemble.com/
Comments are closed.