Mae EIL UK yn elusen sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ryngwladol rannu cartref gyda theuluoedd yn y DU. Rydym yn chwilio am gydlynydd lleol, i helpu ein teuluoedd yng Nghaerdydd i groesawu myfyrwyr i’w cartrefi. Bydd ein grŵp cyntaf o fyfyrwyr y gyfraith o America yn cyrraedd ar 20 Mai 2023. Os ydych yn mwynhau cyfarfod ag ymwelwyr ryngwladol, rhannu eich gwybodaeth a’ch cariad at Gaerdydd a Chymru ac yn gallu helpu i sicrhau profiad cartref cynnes a chroesawgar, gallai hyn fod yn rôl wych i chi .
Rydym yn chwilio am gyfathrebwr trefnus a rhagorol, fydd yn croesawu’r grŵp, yn eu cyflwyno i’w gwesteiwyr, yn rheoli’r logisteg, a hefyd yn goruchwylio a chysylltu â chynorthwywyr gwirfoddol, darparwyr gweithgareddau, tywyswyr teithiau a’r teuluoedd cynnal.
Gofynnir i’r ymgeisydd fod yn hyblyg, yn ddibynadwy, yn drefnus, yn gyfathrebwr da, yn ddyfeisgar ac yn llawn hwyl. Byddai cymorth cyntaf, hyfforddiant diogelu a phrofiad o weithio gyda phobl ifanc naill ai mewn lleoliad ffurfiol neu anffurfiol o fantais. Mae angen gwiriad DBS manylach, a thelir amdano gan EIL.
I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn gydlynydd lleol gyda EIL, ewch i’n gwefan, neu cysylltwch â Calvin Hewitt ar 01684 562577 neu gyda ebost i calvin.hewitt@eiluk.org
|
Tags: Eiriolaeth, Yn y gymuned
Manylion cyswllt
CALVIN HEWITTCyfeiriad:
Cyfeiriad cyswllt: EIL UK, 17 GRAHAM ROAD, MALVERN, WORCESTERSHIRE WR14 2HR
E-bost: host@eiluk.org
Ffôn: 01684562577
Comments are closed.