Mae Cylch Sgwennwyr Caerdydd (CSC neu CWC yn Saesneg) yn chwilio am Gydlynydd Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata i helpu i hyrwyddo prosiect ysgrifennu creadigol 8 mis yng Nghaerdydd eleni. Ffefrir ymgeiswyr sydd â syniadau a phrofiadau creadigol ym maes marchnata.
Pwy ydyn ni. Fe’i sefydlwyd ym 1947 gyda’r nod o gefnogi’r grefft o sgwennu o bob math, CSC yw’r grŵp ysgrifennu creadigol hynaf yng Nghymru. Rydym yn gwbl wirfoddol ac eleni (2022) rydym yn nodi ein pen-blwydd yn 75.
Yn cael ei gynnal o fis Mai i fis Rhagfyr mae ‘Caerdydd 75’ yn brosiect 8 mis i ddathlu 75 mlynedd o ysgrifennu creadigol yng Nghaerdydd ac i gryfhau’r gymuned ysgrifennu leol drwy weithgareddau, hyfforddiant a digwyddiadau ar raddfa fach mewn partneriaeth â grwpiau ac asiantaethau ysgrifennu lleol eraill. Mae elfennau’r prosiect yn cynnwys: · ‘Cynulliad Awduron’: dod ag awduron lleol, cyhoeddwyr ac eraill at ei gilydd i rwydweithio, dysgu a chyfnewid syniadau. · Datblygu awduron drwy weithdai ysgrifennu creadigol a chyfleoedd eraill. · Sesiynau meic agored a darllen barddoniaeth mewn lleoliadau cyhoeddus bach. · Cyhoeddi casgliad o waith newydd gan gyfranogwyr tua diwedd y flwyddyn. · Hyrwyddo digwyddiadau’r prosiect ac ysgrifennu creadigol yn lleol ar gyfryngau cymdeithasol a chyfryngau print/darlledu lleol yn barhaus. Rydym yn awduron ac yn adroddwyr straeon da ond nid oes gwybodaeth/sgiliau cyhoeddusrwydd/marchnata gennym ac rydym yn chwilio am gymorth profiadol yn y maes hwn yn ystod cyfnod y prosiect ei hun a’r cyfnod yn arwain ato. Amdanoch chi § Brwdfrydig, angerddol ac yn gyfathrebwr, hyblyg eich amser § Profiad marchnata ymgyrchol (digidol a thraddodiadol) § Cysylltiadau cyfredol yn y cyfryngau Sut i gymhwyso eich doniau Cefnogi cyhoeddusrwydd a marchnata cysylltiedig yn y cyfnod cyn, a thros gyfnod y prosiect:
· Helpu i gynllunio cynllun cysylltiadau cyhoeddus/marchnata niwtral o ran costau gyda chynnwys digidol (cyfryngau cymdeithasol), print lleol a darlledu. · Gweithio gyda thîm prosiect CSC ac eraill i ddatblygu cynnwys. · Darparu mentora cyfyngedig i hyd at 3 gwirfoddolwr i’w helpu i ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau marchnata sylfaenol.
Pryd: dechrau cyn gynted â phosibl a gorffen Rhagfyr 2022. Oriau hyblyg i’ch siwtio chi ond yn debygol o fod gyfwerth ag un hanner diwrnod yr wythnos.
Ble: cartref yn bennaf gyda chyfarfodydd yn bennaf drwy Zoom, gyda rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd.
Pwy: gweithio gyda’r Tîm Prosiect gwirfoddol a hyd at 3 gwirfoddolwr marchnata. Prif gyswllt cychwynnol: Arweinydd prosiect Martin Buckridge.
Sut: Gallwn ddarparu’r rhan fwyaf o’r cynnwys – ynghylch y prosiect (yr hyn yr ydym am ei gyflawni, beth sydd ymlaen ac ati), CSC a grwpiau eraill a manteision niferus ysgrifennu creadigol yn ogystal â straeon personol, straeon byrion a cherddi awduron cyhoeddedig a heb eu cyhoeddi. Mae’r gyllideb farchnata yn fach iawn a bydd defnyddio cyfryngau cymdeithasol a chyfryngau print/darlledu am ddim yn hanfodol. Gallwn gael peth cyfieithu Cymraeg/Saesneg am ddim os oes angen.
Buddion § Prosiect cyfyngedig cyfnod penodedig i wneud gwahaniaeth ynddo. § Gweithio o gartref gyda phobl egnïol a chreadigol § Cyfleoedd rhwydweithio § Mae’n mynd i fod yn hwyl.
|
Tags: Gwaith cyfreithol, Gweinyddu a gwaith swyddfa
Manylion cyswllt
Martin BuckridgeE-bost: mandabuckridge@gmail.com
Ffôn: 07930939215
Gwefan: Cardiffwriterscircle.cymru
Comments are closed.