Mae It Gets Better yn fudiad rhyngwladol sy’n rhagweld byd lle mae pob person ifanc LHDTC+ yn rhydd i fyw’n gyfartal a gwybod ei deilyngdod a’i grym fel unigolyn. Rydym yn ymdrechu i adrodd straeon pobl LHDTC+ ac i rannu negeseuon cadarnhaol a chalonogol â phobl ifanc LHDTC+.
Mae ein pennod yn y DU yn gweithredu ledled y DU gyda grwpiau o Genhadon Gwirfoddol sy’n gweithredu yn eu hardaloedd lleol. Rydym bellach yn dechrau pennod o Genhadon Gwirfoddol ledled Cymru.
Bydd gwirfoddolwyr yn cynrychioli eich ardal leol yng Nghymru ac yn cydweithio â gwirfoddolwyr eraill o Gymru, a’n rhwydwaith gwirfoddolwyr ehangach ledled y DU, i rannu neges o obaith i bobl ifanc yn eich ardal leol, a chasglu straeon am obaith gan bobl yn eich ardal leol.
Mae gwirfoddolwyr yn ymgymryd â 4 cam gweithredu allweddol y flwyddyn: chi sy’n dewis y rhain, sy’n golygu bod y rôl hon yn gofyn am arweinyddiaeth ac yn galluogi llawer o hyblygrwydd. Rhaid i’r camau gweithredu weithio tuag at gasglu a rhannu straeon gobeithiol am y profiad LHDTC+.
• Codi ymwybyddiaeth o It Gets Better UK a’n gwaith drwy siarad ag aelodau o’r gymuned LHDTC+ yn eich ardal chi, ac ar y cyfryngau cymdeithasol
• Edrych ar ôl ein stondinau gwybodaeth a chodi arian mewn digwyddiadau lleol – yn bwysicaf oll, cynnal stondin It Gets Better UK yn eich ardal leol.
• Cefnogi aelodau eraill o dîm gwirfoddoli It Gets Better UK i gyflwyno digwyddiadau yn eu hardal drwy ychwanegu capasiti lle bo hynny’n bosibl, ac o fewn pellter sy’n addas i chi – er enghraifft, helpu ar stondin Pride sy’n cael ei rhedeg gan Gennad arall gerllaw.
• Cyflwyno sgyrsiau i grwpiau LHDTC+, grwpiau cymunedol, ysgolion ac ati yn yr ardal leol am waith It Gets Better UK a sut y gallent ein helpu i gyflawni ein nodau
• Ysbrydoli aelodau o’r gymuned LHDTC+ i ychwanegu eu stori It Gets Better eu hunain at
ein gwaith.
Rydym yn chwilio am unigolion hyderus, sydd â chysylltiadau da a phrofiad bywyd LHDTC+ ar gyfer yr uwch rôl wirfoddoli hon.
Mae’r ymrwymiad amser sydd ei angen yn amrywio, a gall fod yn hyblyg. Y cyfan rydym yn gofyn amdano yw eich bod yn cynnal 4+ gweithgaredd drwy gydol y flwyddyn!
Tags: Cwmnïaeth a chymdeithasu
Manylion cyswllt
Miriam ChappellE-bost: Miriam@itgetsbetter.org.uk
Gwefan: www.itgetsbetter.org.uk/get-involved


Comments are closed.