Mae rhai sefydliadau allweddol yng Nghaerdydd sy’n bwysig iawn wrth alluogi gwirfoddolwyr ledled y ddinas.
Mae’r sefydliadau hyn yn ariannu ac yn hyfforddi pobl yn ogystal â rhoi cyngor a chymorth arbenigol.
Mae rhai sefydliadau allweddol yng Nghaerdydd sy’n bwysig iawn wrth alluogi gwirfoddolwyr ledled y ddinas.
Mae’r sefydliadau hyn yn ariannu ac yn hyfforddi pobl yn ogystal â rhoi cyngor a chymorth arbenigol.
Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (CTSC) yn gwella gallu pobl o bob rhan o gymdeithas i wirfoddoli, gan ategu ymdrechion i sicrhau nad yw rhwystrau diangen yn atal pobl rhag gwirfoddoli. Cynigia hyn drwy:
Mae Hyb Chwaraeon Caerdydd yn adnodd ar-lein sy’n ategu nod Chwaraeon Caerdydd o greu cyfleoedd i bawb drwy chwaraeon drwy ei gwneud mor hawdd â phosibl cymryd rhan – p’un ai drwy wirfoddoli, dod o hyd i glwb chwaraeon lleol, hyfforddi eraill neu ddod o hyd i gyrsiau neu gyfleoedd hyfforddi. Yn yr un modd, mae’r Hyb Chwaraeon yn galluogi sefydliadau a hoffai gynnig cyfleoedd gwirfoddoli chwaraeon i hyrwyddo eu cyfleoedd i weithlu gwirfoddol medrus a phrofiadol sy’n cynyddu’n gyflym. Mae Chwaraeon Caerdydd yn canolbwyntio ac yn arbenigo yn:
Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd (GMC) yn credu mewn rhoi cyfle i gymuned Caerdydd roi ychydig i ennill llawer. Mae’n elusen a arweinir gan fyfyrwyr sy’n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yng Nghaerdydd a’r cyffiniau ers y 1970au.
Mae ganddi dros 20 o brojectau sy’n galluogi gwirfoddolwyr (a all fod yn aelodau o’r gymuned neu’n fyfyrwyr) i gyfrannu at eu cymuned leol drwy weithio gyda’r sawl sydd ag anableddau dysgu, cyflyrau iechyd meddwl, sy’n hŷn neu’n ddigartref.
Bydd rôl wirfoddoli â’r elusen yn rhoi’r canlynol i wirfoddolwyr:
Mae gwirfoddolwyr hefyd yn gweithio gyda’r amgylchedd ac yn helpu i hyrwyddo Caerdydd werddach. Mae gwirfoddolwyr yn gweithio mewn nifer o feysydd gan gynnwys ysbytai, ysgolion, ar ffermydd, gyda’r heddlu a’r llywodraeth leol gyda 50,000 o oriau o wirfoddoli’n cael eu cyflawni’r llynedd. Mae GMC yn ymfalchïo yn yr effaith a gaiff ar Gaerdydd.
Mae Spice yn rheoli’r rhaglen Credydau Amser yng Nghyngor Caerdydd a sectorau eraill ledled Cymru. Rydym yn datblygu systemau Credydau Amser sy’n gwerthfawrogi amser pawb waeth pwy ydyn nhw. Mae ein rhaglenni’n ymgorffori partneriaethau cyffrous rhwng unigolion a’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol.
Mae Credydau Amser yn gwerthfawrogi amser pawb a’u cyfraniadau unigol. Am bob awr o amser a roddwch i’ch cymuned neu wasanaethau, cewch un Credyd Amser. Gallwch dreulio’r amser hwn ar weithgareddau yn ein rhwydwaith.
Mae Cadwch Caerdydd yn Daclus yn ymgyrch yng Nghaerdydd i lanhau ein strydoedd a’n cymdogaethau ac mae’n galw ar ddinasyddion Caerdydd i wneud cyfraniad sy’n gwneud gwahaniaeth. Gan ganolbwyntio ar ddefnyddio talent pobl, glanhau cymdogaethau, peidio â goddef sbwriela a chodi ymwybyddiaeth o ailgylchu. Gall helpu gydag:
Os hoffech gyfrannu at bigo sbwriel yn eich ardal, cysylltwch ag un o’r grwpiau cymuned neu cofrestrwch fel hyrwyddwr sbwriel yn http://www.cadwchcaerdyddyndaclus.com/grwpiau-cymunedol/
I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau ewch i’r adran digwyddiadau
Os hoffech ddechrau’ch grŵp eich hun, cysylltwch â Cadwch Gymru’n Daclus a all gynnig cyngor i chi ar wneud hyn. Gallwch gysylltu â swyddog Caerdydd yn: https://www.keepwalestidy.cymru/forms/cysylltwch
© Gwirfoddoli Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd
Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd