Opsiynau gwirfoddoli
Gall pobl sy’n dymuno gwirfoddoli naill ai ymgysylltu â rhwydweithiau cyd-gymorth a gwirfoddoli cymunedol anffurfiol a/neu gytuno i wirfoddoli’n fwy ffurfiol mewn rôl gyda sefydliad.
Cyd-gymorth/cylchoedd cymunedol/gwirfoddoli anffurfiol
Mae llawer o gymdogion eisoes wedi ymrwymo i gynorthwyo a chefnogi ei gilydd mewn ardal fach iawn. Yn rhan fwyaf yr achosion, mae hyn yn golygu bod y bobl dan sylw eisoes yn adnabod ei gilydd i ryw raddau. Ni ddylai unrhyw un gael ei roi dan bwysau i gymryd rhan.
Mae cardiau post neu daflenni trwy flychau llythyrau wedi’u defnyddio i ailgyflwyno cymdogion ac awgrymu sut y gallent helpu a chefnogi ei gilydd: o gadw mewn cysylltiad yn unig drwy alwadau ffôn, i adael y neges wrth ddrws y tŷ ac ati, gan gadw pellter cymdeithasol yr un pryd.
Ceir manylion ar gysylltiadau cyfryngau cymdeithasol fel WhatsApp a grwpiau lleol ar Facebook a.y.b.
Ymunwch â mudiad gwirfoddolwyr presennol
Drwy eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) neu Gwirfoddoli Cymru, gallwch gofrestru i ymgymryd â rôl wirfoddoli benodol gyda sefydliad lleol.
Dylai gwirfoddolwyr ddisgwyl y gofynnir iddynt ymrwymo i god ymddygiad sy’n ofynnol gan y sefydliad.
Gellir holi pob gwirfoddolwr am eu collfarnau sydd heb eu disbyddu (nid yw’r cyfnod adsefydlu ddim wedi dod i ben eto (gweler y wybodaeth yma: Datgloi)) ond fel mater o arfer da yn unig. Mae hyn yr un fath â gwiriad sylfaenol y GDG ond gallai fod yn fater o lenwi ffurflen ar-lein syml.
Efallai y bydd angen gwiriadau GDG manwl ar rai rolau gwirfoddoli eraill Gwiriadau GDG ond gan fod y rhain ar gyfer rolau sy’n cynnwys cyswllt â’r bobl sydd fwyaf agored i niwed o ran materion diogelu confensiynol, bydd llai o gyfleoedd o’r fath. Dylai rolau sydd angen gwiriadau manylach gan y GDG gael eu nodi’n glir ar y wybodaeth.