Mae Banc Bwyd Caerdydd yn parhau i helpu pobl sy’n cwrdd â meini prawf gwreiddiol Banc Bwyd trwy’r amser hwn.
Mae hynny’n cynnwys pobl sy’n eu cael eu hunain heb unrhyw fwyd oherwydd oedi neu newidiadau i fudd-daliadau, incwm isel, diswyddo, salwch ac ati, ond nid am resymau Covid-19 yn unig.
Bydd angen i bobl mewn argyfwng bwyd gael gafael ar daleb gan un o’n hasiantaethau. Mae cymdeithasau tai, y gwasanaeth prawf, bydwragedd, ymwelwyr iechyd, gweithwyr cymorth a llawer o sefydliadau eraill i gyd yn dal i roi talebau. Yna gellir cyfnewid y daleb yn un o’n canolfannau Banc Bwyd am isafswm o fwyd sych, tun a phaced i ddarparu tri phryd y dydd am dri diwrnod.
Gweler y wefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd agor canolfannau https://cardiff.foodbank.org.uk/locations/
Fel arall, mae pedwar o hybiau’r Cyngor yn gweithredu fel canolfannau dosbarthu Banc Bwyd ac yn cyhoeddi ein talebau ac yn eu cyfnewid am fwyd yn y man cyswllt. Ffoniwch 029 2087 1071 i ymholi.
Os na allwch gyrraedd asiantaeth i gael taleb oherwydd eich bod yn sâl, er eich bod yn cyflawni meini prawf Banc Bwyd, yna ffoniwch rif y Cyngor uchod gan eu bod yn gweithredu gwasanaeth dosbarthu.
Tags: Siopa a dosbarthu
Comments are closed.