Cenhadaeth y Gymdeithas Fegan yw gwneud feganiaeth yn brif ffrwd.
Rydym yn gweithio’n ddiflino i wneud feganiaeth yn ddull hawdd ei fabwysiadu ac a gydnabyddir yn eang o leihau dioddefaint anifeiliaid a niwed amgylcheddol. Rydym yn gwneud hynny trwy ddeialog heddychlon a ffeithiol gydag unigolion, sefydliadau a busnesau.
—————————————
Ydych chi am gymryd rhan mewn gwirfoddoli fegan o amgylch Caerdydd?
Mae gennym Rwydwaith Cymunedol o feganiaid sy’n tyfu’n barhaus ac, yn union fel chi, ag angerdd i wirfoddoli a hyrwyddo feganiaeth yng Nghaerdydd.
Bob mis, mae ein Rhwydwaith yn dewis o amrywiaeth o dasgau allgymorth. Gallai’r rhain gynnwys stondinau canol y ddinas, ysgrifennu at gynghorydd neu AS, rhannu ein hymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol neu gysylltu â busnesau lleol. Chi sy’n rheoli cymaint neu gyn lleied rydych chi’n ei wneud.
Rydym hefyd yn darparu taflenni, baneri a gweithdai i’n gwirfoddolwyr fel eu bod yn barod i gael yr effaith fwyaf posibl.
Beth mae’r rôl yn ei olygu?
Bob mis, anfonir casgliad o dasgau atoch i ddewis ohonynt. Rydym yn creu’r rhain o’n rhaglen ymgyrchoedd. Chi fyddai’r pwynt cyswllt i Eiriolwyr yn eich ardal, yn rhannu’r tasgau hyn a chydlynu gweithgareddau, fel cynnal stondinau a lobïo chynghorwyr. Byddwn yn rhoi pecyn cymorth ymgyrchoedd i chi ac yn cysylltu’n rheolaidd â chi i sicrhau bod gennych y cyfan sydd ei angen arnoch. Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i’n grŵp Facebook preifat a WhatsApp.
Byddem yn disgwyl i chi ddarparu unrhyw ddiweddariadau gan eich grŵp a rhoi adborth ar bob tasg. Mae’n hanfodol ein bod yn mesur yr effaith yr ydym yn ei chael, o ran sgyrsiau a thaflenni cadarnhaol a ddosbarthwyd. Gallwch hefyd roi syniadau sydd gyda chi am dasgau allgymorth neu ymgyrchu yn y dyfodol i ni. Mae llawer o Drefnwyr yn cael ymdeimlad enfawr o foddhad, gwelliant mewn hunan-barch ac yn mwynhau ochr gymdeithasol gwirfoddoli yn y rôl hon.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am groesawu Eiriolwyr newydd yn eich ardal. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd rhywun newydd yn gwneud cais i ymuno â ni, a byddwch yn eu helpu i gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau. Fel y prif gyswllt i Eiriolwyr, mae’r rôl hon yn gofyn am rywfaint o ymwybyddiaeth o weithdrefnau a pholisi diogelu data a diogelu. Byddwch hefyd yn gyswllt iechyd a diogelwch ar gyfer eich grŵp. Bydd hyfforddiant llawn ar eich rôl yn hyn o beth, yn ogystal â llawlyfr ac arweiniad a chefnogaeth barhaus.
Fel Trefnydd, byddwch yn sicrhau bod unrhyw adnoddau neu gamau gweithredu a wneir yn unol â’n canllawiau brandio a negeseuon ac yn sicrhau bod Eiriolwyr yn deall hyn hefyd.
Pa hyfforddiant a chefnogaeth sydd ar gael?
Cewch eich sefydlu’n llawn yn y rôl, gyda thasgau a chyfrifoldebau newydd yn cael eu cyflwyno’n raddol. I ddechrau, byddwn yn darparu sesiwn hyfforddi gychwynnol i gwmpasu hanfodion trefnu cymunedol, sgiliau cyfathrebu a chynllunio digwyddiadau. Bydd hyn yn cael ei wneud o bell o ble bynnag yr ydych chi. Ynghyd â hyn, byddwn yn darparu pecyn llawn o adnoddau sy’n cwmpasu ystod o waith a wnawn.
Wedyn, bydd sgyrsiau ac adolygiadau rheolaidd, lle gallwn drafod gofynion hyfforddi eraill. Mae staff bob amser ar gael i Drefnwyr ar gyfer unrhyw gwestiynau, dros y ffôn neu drwy e-bost.
Pa sgiliau fyddai’n ddefnyddiol wrth gyflawni’r rôl hon?
• Sgiliau trefnu ardderchog
• Profiad o gydlynu pobl
• Profiad o weithio i ddyddiadau a therfynau amser penodol
• Sgiliau cadw amser da
• Gallu gweithio’n annibynnol
• Y gallu i ysgogi pobl o amgylch pwnc feganiaeth
• Y gallu i gadw at frandio
• Y gallu i ddarllen negeseuon e-bost yn brydlon a throi tasgau’n gamau gweithredu yn gyflym
• Y gallu i adrodd yn ôl ar weithgareddau
• Gwybodaeth ardderchog am faterion fegan
Byddai’n fuddiol cael mynediad at gerbyd, gan y bydd rhai tasgau’n golygu mynd ag adnoddau i ddigwyddiadau neu ymweld â swyddfeydd ASau. Fodd bynnag, nid yw hyn yn orfodol gan y gellir cario pecyn cymorth yr ymgyrch mewn bag cefn.
Faint o amser sydd angen i mi ei dreulio arno?
Dylech allu ymrwymo tua dau ddiwrnod y mis i gyflawni tasgau, ac mae hyn fel arfer yn cael ei ledaenu dros y mis. Rydym hefyd yn disgwyl ymatebion prydon i e-byst. Pan fydd Eiriolwr newydd yn gwneud cais i weithio gyda chi, hoffem i chi gysylltu â nhw o fewn saith diwrnod.
Manylion cyswllt
Katy MalkinCyfeiriad:
Pencadlys The Vegan Society:
Donald Watson House, 21 Hylton Street, Birmingham, B18 6HJ
E-bost: communitynetwork@vegansociety.com
Ffôn: +44 121 728 5855
Ffôn symudol: +44 121 728 5855
Gwefan: https://www.vegansociety.com/get-involved/volunteering-vegan-society/community-network
Comments are closed.