Cenhadaeth y Gymdeithas Fegan yw gwneud feganiaeth yn brif ffrwd.
Rydym yn gweithio’n ddiflino i wneud feganiaeth yn ddull hawdd ei fabwysiadu ac a gydnabyddir yn eang o leihau dioddefaint anifeiliaid a niwed amgylcheddol. Rydym yn gwneud hynny trwy ddeialog heddychlon a ffeithiol gydag unigolion, sefydliadau a busnesau.
—————————————
Ydych chi am gymryd rhan mewn gwirfoddoli fegan o amgylch Caerdydd?
Mae ein rhwydwaith o feganiaid lleol ymroddedig ledled Cymru yn tyfu! Mae’r Gymdeithas Fegan yn trefnu gweithgareddau allgymorth amrywiol i ddylanwadu ar newid ym mhob lefel o gymdeithas. Mae amrywiaeth o weithgareddau yn digwydd drwy’r amser, o stondinau addysgol cyffredinol mewn digwyddiadau i gyfarfod â dylanwadwyr polisi lleol.
Mae eiriolwyr yn llais hanfodol yn eu cymuned eu hunain. Maen nhw’n sicrhau bod negeseuon ein hymgyrch yn cael eu lledaenu ymhell ac agos. Maent yn darparu presenoldeb fegan cryf mewn cymunedau lleol.
Beth mae’r rôl Eirioli yn ei olygu?
Bydd bod yn Eiriolwr dros feganiaeth gyda’r Gymdeithas Fegan yn golygu cyfathrebu â phobl yn eich cymuned leol. Byddwch yn rhannu manteision ffordd o fyw fegan. Byddwch yn ffurfio rhan o grŵp lleol, dan arweiniad Trefnydd lleol. Bydd y Trefnydd yn rhoi adborth i’ch ymdrechion cyfunol i’r staff. Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i’n grŵp Facebook preifat, ar gyfer cymdeithasu fegan a rhannu syniadau.
Byddwch yn cadw mewn cysylltiad â’r Trefnydd ac yn dod â’ch angerdd at dasgau. Gall gweithgareddau amrywio o staffio stondin i roi sgwrs mewn digwyddiad gweithwyr. Gallai hefyd olygu ysgrifennu at bapur newydd lleol neu lobïo AS.
Gall negeseuon amrywio bob mis. Rhan o’n datganiad cenhadaeth yw sicrhau y gall pobl barhau i fod yn fegan, felly efallai y byddech yn canolbwyntio ar gael mwy o opsiynau fegan mewn busnesau lleol. Neu yn ein hymgyrch Byw’n Fegan am Lai, efallai y byddwch yn rhannu ryseitiau fegan fforddiadwy i helpu pobl gyda chostau byw.
Wrth weithredu fel Eiriolwr, byddwch yn defnyddio canllawiau brandio a negeseuon y Gymdeithas Fegan. Bydd eich Trefnydd lleol yn rhoi arweinid i chi yn hyn o beth, gan fod ganddyn nhw adnoddau a llawlyfrau. Gallwch roi gwybod am unrhyw anawsterau ac adborth i’ch Trefnydd. Gallwch hefyd gysylltu â staff os nad yw’ch Trefnydd ar gael neu os oes gennych unrhyw broblemau.
Pa hyfforddiant a chefnogaeth sydd ar gael?
Byddwch yn derbyn croeso mawr a chewch eich sefydlu’n llawn gan eich Trefnydd lleol. Bydd yn eich cyflwyno i’r grŵp ac unrhyw gamau gweithredu sydd ar y gweill. Darperir hyfforddiant a datblygiad drwy eich Trefnydd, a gallwch hefyd ofyn am hyfforddiant penodol mewn unrhyw feysydd sydd angen eu datblygu.
Pa sgiliau fyddai’n ddefnyddiol wrth gyflawni’r rôl hon?
• Y gallu i barthau’n llawn cymhelliant er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl
• Ffordd dda o gyfathrebu drwy e-bost, ymateb yn brydlon
• Yn ymrwymedig at feganiaeth a chenhadaeth y Gymdeithas Fegan
• Y gallu i beidio â chynhyrfu os wynebir safbwyntiau neu heriau gwahanol
• Cyfathrebwr da, gyda’r gallu i fod yn berswadiol
• Hyder i gyfathrebu â phobl o amrywiaeth o gefndiroedd
• Profiad o ymgyrchu
• Byddai unrhyw brofiad o siarad ag aelodau’r cyhoedd drwy wasanaeth cwsmeriaid/cyhoeddus yn ddefnyddiol
• Ymwybyddiaeth o faterion cyfoes, yn enwedig rhai sy’n ymwneud â feganiaeth
• Argaeledd rheolaidd a pharodrwydd i aros yn ymrwymedig i weithredu
• Yn gweithio’n dda mewn tîm
Faint o amser sydd angen i mi ei dreulio arno?
Ar gyfer Eiriolwyr, gofynnwn i bobl gymryd rhan mewn o leiaf 4-6 gweithred y flwyddyn. Enghraifft o weithred allai fod ysgrifennu at AS neu gynnal stondin. Ond gorau po fwyaf rydych chi’n ei wneud! Weithiau, efallai y bydd cyfarfodydd ar-lein hefyd i gynllunio ar gyfer camau gweithredu neu i ddarparu hyfforddiant.
Tags: Cwmnïaeth a chymdeithasu
Manylion cyswllt
Katy MalkinCyfeiriad:
Pencadlys The Vegan Society:
Donald Watson House, 21 Hylton Street, Birmingham, B18 6HJ
E-bost: communitynetwork@vegansociety.com
Ffôn: +44 121 728 5855
Ffôn symudol: +44 121 728 5855
Gwefan: https://www.vegansociety.com/get-involved/volunteering-vegan-society/community-network
Comments are closed.