Mae cynllun Gofyn i Fi Cymorth i Ferched Cymru yn cefnogi cymunedau i dorri’r mudandod ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ac i wella eu hymateb i oroeswyr.
Gwnawn hyn drwy ddarparu hyfforddiant rhad ac am ddim a chymorth parhaus sy’n cynorthwyo aelodau’r gymuned i:
* gychwyn sgyrsiau am gamdriniaeth
* gwybod lle mae cymorth ar gael
* rhannu eu gwybodaeth gydag eraill
* gwybod sut i roi ymateb cefnogol a defnyddiol i unrhyw un sy’n rhannu eu profiad o gamdriniaeth.
I ymuno, mae angen i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn, yn byw, gweithio neu’n gwirfoddoli yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg.
Ar ôl y cwrs, mae aelodau’r gymuned yn rhydd i dreulio cymaint neu gyn lleied o amser ag y dymunant ar weithredu ynghylch hyn, y cyfan a ofynnwn yw eu bod yn llenwi holiadur byr unwaith y mis i’n hysbysu am yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud.
Tags: Addysg a hyfforddiant
Manylion cyswllt
Miriam MerkovaCyfeiriad:
Tŷ Pendragon, Maes Caxton,
Caerdydd
CF23 8XE
E-bost: askmewales@welshwomensaid.org.uk
Ffôn: 02920541551
Gwefan: Prosiect Gofyn i Fi – Cymorth i Ferched Cymru (welshwomensaid.org.uk)
Comments are closed.