Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn recriwtio aelodau newydd i ymuno â’i banel Apeliadau Annibynnol Derbyn i Ysgolion.
Mae gan rieni a gofalwyr yr hawl gyfreithiol i apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod derbyn i wrthod lle i’w plentyn yn yr ysgol o’u dewis ac mae’r apeliadau hyn yn cael eu clywed gan banel annibynnol o dri unigolyn.
Sgiliau: Deall polisïau a deddfwriaeth berthnasol (rhoddir hyfforddiant). Meddu ar sgiliau gwrando a chyfathrebu da. Gweithio gyda gonestrwydd a thegwch. Gallu ymarfer barn gadarn a gwneud penderfyniad rhesymegol da. Ymwybodol o faterion cydraddoldeb. Dibynadwy ar ddiwrnodau gwrandawiad apêl. Gallu gweithio gydag aelodau eraill o’r panel apeliadau
|
Tags: ysgol
Comments are closed.