Beth mae eich sefydliad/grŵp yn ei wneud?
Mae Shining Stars Cardiff CIC yn gwmni buddiannau cymunedol bywiog sy’n ymroddedig i ddarparu gofal plant fforddiadwy i blant 2-5 oed, mewn amgylchedd meithringar ac ysgogol. Ein cenhadaeth yw helpu plant i ddisgleirio trwy feithrin creadigrwydd, dysgu a thwf personol, yn ogystal â helpu menywod o leiafrifoedd ethnig i gael profiad gwaith, hyfforddiant a hyder i ymuno â’r gweithlu. Rydym yn ehangu’n barhaus ar syniadau i helpu’r gymuned, ac ar hyn o bryd rydym yn trefnu Dosbarth Saesneg Llafar ar gyfer menywod o leiafrifoedd ethnig gyda phlant o dan 5 oed.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
Fel Gweinyddwr Gwirfoddol, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o redeg ein hysgol feithrin yn ddidrafferth. Bydd eich cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys y canlynol:
– Rheoli cofnodion a dogfennau.
– Trefnu amserlenni a chefnogi gweithrediadau dyddiol.
– Ymdrin ag ymholiadau a chydgysylltu â staff a rhieni.
– Cynorthwyo gyda thasgau gweinyddol gan ddefnyddio gwahanol offer TG.
Rydym yn chwilio am rywun gyda’r canlynol:
– Sgiliau TG da (e.e., MS Office, Google Workspace).
– Sgiliau trefnu rhagorol a manwl gywirdeb.
– Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm.
– Ymrwymiad i wirfoddoli ar gyfer y flwyddyn ysgol (rhan amser).
Gofynion Arbennig Amlinelliad o’r rôl (gan gynnwys dyletswyddau a chyfrifoldebau)
Mae’r swydd hon yn hyblyg, ond byddai’n well gennym ymrwymiad o 2 fore’r wythnos o leiaf ar y dechrau i helpu i reoli a chreu systemau newydd i’w cynnal. Byddai mynediad i’ch gliniadur eich hun yn ddefnyddiol, ond nid yn angenrheidiol, ond mae angen sgiliau digidol arbenigol. Byddai angen GDG manwl yn y pen draw gan ein bod yn gweithio gyda phlant yn ddyddiol, ond gellir trefnu hyn yn nes ymlaen.
1. Rheoli Cofnodion:
– Cynnal a diweddaru cofnodion myfyrwyr a staff, gan gynnwys cofnodion presenoldeb, manylion cofrestru, a gwybodaeth gyswllt.
2. Cymorth TG:
– Rheoli dogfennau a ffeiliau digidol, gan sicrhau eu bod yn cael eu storio’n gywir ac yn hawdd eu cyrraedd.
3. Mewnbynnu Data:
– Mewnbynnu a diweddaru gwybodaeth mewn systemau gweinyddol, fel olrhain cynnydd myfyrwyr neu reoli rhestrau aros, ac ati.
4. Ad-hoc yn ôl yr angen i sicrhau bod y feithrinfa’n gweithredu’n ddidrafferth o ddydd i ddydd.
Yr hyfforddiant y byddwn ni’n ei ddarparu Yr hyn y gallwn ni ei wneud i chi
Byddwn yn hyfforddi fel y bo’n briodol ar unrhyw systemau sydd eu hangen. Bydd gwirfoddolwyr hefyd yn cael mynediad i unrhyw hyfforddiant ychwanegol sydd ar gael. Fel gwirfoddolwr gwerthfawr, byddwch yn derbyn y canlynol:
– Cymorth a hyfforddiant llawn.
– Geirdaon proffesiynol ar ôl 3 mis o wasanaeth.
– Credydau Amser Tempo, y gallwch eu cyfnewid am brofiadau, cyfleoedd dysgu, a gweithgareddau.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:
Cysylltwch â gwirfoddoli@caerdydd.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.
Tags: Gweinyddu a gwaith swyddfa
Manylion cyswllt
Volunteer@cardiff.gov.ukCyfeiriad:
Hybrid: Yn y Feithrinfa yn 2-4 Leckwith Avenue, CF11 8HQ (yn rhandy Eglwys Gymunedol Treganna) neu o bell o gartref o bryd i'w gilydd.
E-bost: volunteer@cardiff.gov.uk
Gwefan: volunteercardiff.co.uk
Comments are closed.