Mae Caffi Trwsio Cymru yn agor ac yn cefnogi caffis trwsio yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn sefydliad nid-er-elw sy’n ymroddedig i greu diwylliant o drwsio ac ailddefnyddio, er mwyn annog cymunedau sydd am weithio tuag at Economi fwy Cylchol. Ein gwerthoedd craidd yw lleihau gwastraff, rhannu sgiliau ac adeiladu cysylltiadau cymunedol.
Mae caffis trwsio yn ddigwyddiadau dros dro sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Fe’u cynhelir yn aml mewn lleoliadau cymunedol ar ddyddiadau rheolaidd (e.e. dydd Sadwrn cyntaf y mis.) Gall pobl leol ddod â’u heitemau cartref sydd wedi torri neu eu difrodi i gael eu trwsio, am ddim, gan wirfoddolwyr. Mae’r gwaith trwsio nodweddiadol yn cynnwys dillad, trydan cartref, technoleg, gwaith coed, teganau plant, dodrefn a beiciau.
Rydym yn chwilio am Drefnwyr Gwirfoddol, Lletywyr Gwirfoddolwyr a Thrwswyr Gwirfoddol. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion am bob un o’r rolau hyn.
Tags: Cymuned
Manylion cyswllt
Leonie HudsonE-bost: leonie@repaircafewales.org
Gwefan: repaircafewales.org/cy/
Comments are closed.