Mae Recovery Cymru yn gymuned adfer gydgynorthwyol sy’n cael ei harwain gan gyfoedion yng Nghaerdydd ac ym Mro Morgannwg sy’n grymuso pobl i gyflawni a chynnal adferiad wrth gefnogi eraill i wneud yr un peth. Caiff ein holl weithgareddau eu harwain gan y gymuned. Gyda’n gilydd, rydym yn grymuso ac yn cefnogi ein gilydd i ddechrau adferiad a symud ymlaen ynddo, i ddatblygu sgiliau a diddordebau ac i wella ansawdd bywyd.
Yn Recovery Cymru, mae ein gwirfoddolwyr wrth wraidd popeth a wnawn. P’un a ydych yn rhoi cymorth cyfoedion, yn helpu gyda digwyddiadau neu’n cynnig eich sgiliau y tu ôl i’r llenni, mae eich cyfraniad yn helpu i greu cymuned adfer dosturiol a chefnogol. Rydym yn falch iawn bod diddordeb gennych mewn ymuno â ni!
Pam gwirfoddoli gyda ni?
Mae gwirfoddoli yn Recovery Cymru yn ffordd ystyrlon o:
Gefnogi eraill: Rhannwch eich profiadau a helpu eraill ar hyd eu taith adfer.
Datblygu sgiliau: Enillwch brofiad gwerthfawr mewn mentora cymheiriaid, hwyluso grŵp, a mwy.
Creu cymuned: Dewch yn rhan o gymuned adfer clòs a chroesawgar.
Gwneud gwahaniaeth: Mae eich cyfranogiad yn effeithio’n uniongyrchol ar fywydau unigolion sy’n ymadfer.
Mae ein grwpiau Cymorth Cyfoedion i Deuluoedd a Ffrindiau yn cynnig lle diogel a chroesawgar i’r rhai sy’n cefnogi anwyliaid sy’n ymadfer. Fel gwirfoddolwr, byddwch yn arwain sgyrsiau, yn cynnig cymorth emosiynol, ac yn helpu aelodau o’r teulu a ffrindiau i ddod o hyd i gysur a chysylltiad yn ystod eu taith eu hunain. Yr hyn y byddwch yn ei wneud: Hwyluso trafodaethau grŵp ar gyfer anwyliaid unigolion sy’n ymadfer. Cynnig clust wrando a rhannu adnoddau defnyddiol. Annog hunanofal a chynnig cyngor ymarferol ar gefnogi rhywun sy’n ymadfer. Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano: Gwirfoddolwyr sydd â phrofiad personol o gefnogi rhywun i ymadfer neu sy’n deall ei effaith ar deuluoedd a ffrindiau. Unigolion tosturiol ac empathig sydd â sgiliau cyfathrebu da. Pam mae’n bwysig: Gall cefnogi rhywun i ymadfer fod yn heriol, ac mae llawer o anwyliaid yn teimlo’n unig. Bydd eich rôl yn gwneud gwahaniaeth go iawn o ran helpu teuluoedd a ffrindiau i deimlo eu bod wedi’u grymuso a’u cysylltu.
Tags: Cymuned
Manylion cyswllt
Jude EnticottCyfeiriad:
218 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Treganna, Caerdydd
E-bost: judithenticott@recoverycymru.org.uk
Ffôn: 02920 227019
Ffôn symudol: 07479 321359
Gwefan: https://www.recoverycymru.org.uk/
Comments are closed.